- Celf
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
Mae arddangosfeydd Chapter am ddim, a does dim angen archebu. Bydd ein goruchwylwyr cyfeillgar wrth law ym mhob arddangosfa yn yr oriel i roi cyngor, arweiniad a chymorth gyda hygyrchedd hefyd.
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
Mae gosodwaith a delwedd symudol Imogen yn ffurfio tirlun sonig-somatig o leisio, wedi’i siapio gan bobl sy’n profi gwahanol ffyrdd o fod.
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.
Yn cyflwyno rhaglen yr oriel 2026-27 a’r artistiaid fydd yn cydweithio gyda ni.
Gyda bydolwg rhyngwladol a’n gwreiddiau yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid lleol a byd-eang. O gyflwyniadau unigol ac arddangosfeydd grŵp, i breswylfeydd ac ymyriadau artistiaid, rydyn ni’n cydweithio gydag artistiaid ar bob cam o’u gyrfa, gan eu cefnogi i wireddu syniadau mentrus a ffyrdd newydd o weithio.
Mae’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac rydyn ni’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd, artistiaid a’u harfer drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu, (dad)ddysgu a myfyrio ar ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd.
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar sut i archebu, prisiau tocynnau, a’n telerau ac amodau newydd ar gyfer tocynnau.
Cofrestrwch i fod y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ffilmiau a pherfformiadau i ddod.