Art

Nisha Ramayya: A Listening Walk

Free

Nodweddion

Celf yn y Caffi

29.03.24 - 23.06.24

Rhagolwg Cyhoeddus: 28.03.24, 6-8pm. Croeso i bawb

Mae Nisha Ramayya yn gwahodd pobl i fynd ar daith wrando; taith drwy dirweddau go iawn a dychmygol wedi’u cynnal gan sain. Mae gan bawb brofiadau gwahanol o glywed a pheidio â chlywed; mae ein cyrff yn ymateb i sain, cerddoriaeth a sŵn mewn gwahanol ffyrdd. Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n ymgynnull i wrando, cymysgu lleisiau a chydganu, a chreu ein rhythmau cymdeithasol ein hunain?

Mae’r bardd yn estyn gwahoddiad ac yn cynnig cyfle i ystyried beth gallen ni ei ddarganfod wrth ddefnyddio ein horganau synhwyraidd ochr yn ochr â’n canfyddiadau allsynhwyraidd i diwnio mewn i amleddau eraill. Efallai y byddwn ni’n dod ar draws bodau eraill, mathau eraill o wybodaeth, bydoedd eraill. Mae gan Nisha ddiddordeb yn yr hyn y gallai’r gwrando myfyrgar yma ei ddysgu i ni am fywyd cymdeithasol, am lywio harmoni ac anghyseinedd. Iddi hi mae barddoniaeth yn ffordd o ymestyn allan, i gyseinio ag eraill, waeth pa mor fyr fo’r cysylltiad.

Mae Nisha’n gweithio ar draws barddoniaeth, beirniadaeth a pherfformiad cydweithredol, ac yn addysgu ysgrifennu creadigol. Hi yw awdur States of the Body Produced by Love (Ignota, 2019). Daw’r cerddi yma o’i chasgliad newydd, Fantasia, a gyhoeddir gan Granta ym mis Awst eleni. Mae Fantasia yn ein harwain ar daith wrando, drwy gregyn y môr, rhwydweithiau telathrebu a dirgryniadau cosmig, i ddysgu rhywbeth newydd am sut rydyn ni'n swnio. Mae’r cerddi yma, sy’n mwmian ac yn neidio, sy’n llamu ar draws gofod ac amser ac yn adlewyrchu ac yn glanio yng ngherddoriaeth anghydnaws bywyd ar y ddaear, yn cael eu tywys gan arbrofion Alice Coltrane ym maes jazz a chymuned ysbrydol.

Share

Cewch y Newyddion Diweddaraf

Cofrestrwch i fod y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ffilmiau a pherfformiadau i ddod, yn ogystal â gostyngiadau i’r rhestr e-bost yn unig, a mwy!