
Nodweddion
10.30am – lluniaeth, Cyntedd y Sinema
11am – dangos y ffilm, Sinema 2
11.30am – Sesiwn holi ac ateb gyda’r artistiaid, 20 munud
Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Bwydo ar y Fron, ymgyrch fyd-eang flynyddol i godi ymwybyddiaeth ac i weithredu ar faterion sy'n ymwneud â bwydo ar y fron, i ddod at ein gilydd a gwylio'r ffilm Milk Report. Creu gan yr artistiaid a'r dylunwyr o Fryste, Jen Conway a Jessy Young yn archwilio gwleidyddiaeth ac economeg gofal drwy lens bwydo babi, a'r 720 awr a dreuliodd Young yn gwneud hynny dros gyfnod o 6 mis.
Mae'r ffilm 20 munud o hyd yn canolbwyntio ar natur fyrfyfyr, anhrefnus, gyd-ddibynnol ac anniben llafur atgenhedlu.
Bydd sesiwn holi ac ateb fer rhwng y gynulleidfa a’r artistiaid ar ôl y ffilm.
Mae croeso i fabanod, ac mae hwn yn ddangosiad hamddenol felly does dim angen i chi boeni am achosi aflonyddwch, bydd sain yn y sinema yn cael ei droi i lawr i lefel ddiogel.
Cynhyrchwyd Milk Report fel rhan o Feed, sef prosiect celf sy’n hyrwyddo ymagweddau cynhwysol a chynaliadwy tuag at fwydo babanod a mannau cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae Chapter yn gartref i’r Feeding Chair (2022), gwaith celf cydweithredol teithiol a grëwyd fel rhan o’r prosiect, sy’n gwahodd rhieni a gofalwyr i fwydo’u babanod a’u plant ifanc mewn lleoliadau cyhoeddus. Mae'r Gadair wedi'i gosod yn rhan o’r caffi bar rydyn ni wedi'i drawsnewid yn ofod croesawgar i deuluoedd sydd â phlant bach. Ymlaciwch yn y Gadair neu rhannwch eich barn ar ein wal adborth ynghylch sut gall Chapter fod yn lle mwy croesawgar i bobl o bob oed.
___
Am y artistiaid
Mae Conway a Young wedi cydweithio fel dylunwyr graffig, artistiaid ac addysgwyr ers 2006. Gan weithio ar brosiectau wedi’u comisiynu a phrosiectau a gychwynnwyd ganddynt eu hunain, maen nhw’n cael eu cymell gan botensial beirniadol, cymdeithasol, dinesig a gwleidyddol celf a dylunio. Maen nhw'n ymddiddori mewn ffurfiau cynhwysol, disgyrsiol a DIY cynhyrchu ac ymarfer ac mae eu gwaith yn aml yn gwasanaethu fel gwahoddiad i greu cymunedau.