![](https://s3.eu-west-2.amazonaws.com/assets.chapter.org/images/Cinema-Film-2023/_1200x1200_crop_center-center_82_line/barbiepremiere_290723kirstenmcternan134.jpg)
Cymuned
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y syniad o gymuned yn cael ei wreiddio yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud – ac felly dyma yw ein man cychwyn wrth geisio deall diwylliant, rhaglennu, y lleoliad, a phopeth arall. Rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn ffyrdd trawsnewidiol a hirdymor gyda’r bobl sydd ar garreg ein drws. Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail anghenion heddiw, ac sy’n gwneud lle ar gyfer dyfodol i bawb.
Rydyn ni’n hyrwyddo’r syniad o archwilio cymunedau ac artistiaid fel adeiladwyr bydoedd. Rydyn ni’n gweithio tuag at arfer cymunedol sy’n archwilio sut gallwn ni i gyd, o wahanol dirweddau a phrofiadau, ddod at ein gilydd i freuddwydio ac i ymarfer posibiliadau newydd o ran dyfodol.