Archwilio Gofodau

Gallwn gynnig llogi untro neu archebion rheolaidd, gyda lletygarwch neu hebddo, gofynion staffio neu dechnegol. Dewch o hyd i’r gofod perffaith ar gyfer eich digwyddiad yma.

Rydyn ni’n cynnig ystod o ofodau gwych, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, y gallwch eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, dosbarthiadau, ymarferion, perfformiadau, digwyddiadau arbennig, partïon preifat, neu hyd yn oed fel lleoliad ffilmio.

Maen nhw’n amrywio o ran maint, steil ac ymarferoldeb, gyda rhai’n cynnig llenni blacowt, lloriau sbring, offer clyweledol, a bar hyd yn oed, ac mae modd i unigolion, busnesau, cwmnïau neu grwpiau cymunedol ddefnyddio pob un ohonynt.

Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid a chymunedau creadigol Cymru drwy arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.

___

Credyd llun: Kirsten McTernan, Rebecca Jagoe - My Name is Lubbert Das, Experimentica 24.

Our Hire spaces

Ymunwch â'n rhestr bostio