Mae ein caffi bar golau ac agored yn agor bob dydd am 8.30am ac mae ein bwydlen brecinio lawn yn dechrau am 9am. Mae’r gwasanaeth bwyd yn dod i ben am 6pm, ond mae ein bar ar agor yn hwyr ac rydyn ni’n gweini amrywiaeth o fyrbrydau cartref blasus drwy gydol y nos.
Dyma'r lle perffaith i brofi Celf yn y Caffi gyda'ch coffi, i fachu rhywbeth blasus cyn dangosiad prynhawn, neu i sgwrsio gyda ffrindiau dros rywbeth i'w rannu. Rydyn ni hefyd yn cynnig bwyd i fynd, pan fyddwch chi ar fwy o frys.
Os byddwch chi’n aros, mae ein cysylltiad di-wifr cyflym am ddim yn golygu mai dyma’r lle perffaith i astudio, i weithio neu i’w ddefnyddio fel swyddfa answyddogol.
Os yw’r tywydd yn braf, mae gardd gwrw hyfryd gyda ni, sydd dan do yn ystod misoedd y gaeaf, gyda gwresogyddion i’ch cadw’n glyd pan fydd hi’n oeri.
___
Oktoberfest at Chapter! 21.09.24 – 06.10.24
Drwy gydol Oktoberfest rydyn ni’n cynnig cwrw clasurol o’r Almaen ochr yn ochr â chynigion Prydeinig celfydd
+ bwyd arbennig bob nos
___
Archebu
Does dim modd archebu bwrdd, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd, dewch o hyd i un. Bydd angen i chi roi gwybod i’n tîm beth yw rhif eich bwrdd pan fyddwch chi’n archebu wrth y cownter. Pan fydd eich bwyd a diod yn barod, byddwn ni’n dod â nhw atoch chi.
Bwydlen: Llun – Sadwrn 9am-6pm
Mae ein bwydlen brecinio flasus yn cael ei gweini 9am-6pm. Gallwch flasu prydau ffres a thymhorol sy’n arddangos cynnyrch gorau Cymru. Mae ein Bwrdd Arbennig yn newid yn wythnosol.
Bwydlen blant I blant, rydyn ni’n hapus i wneud brechdan syml neu goginio pasta pob cawslyd, i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael tamaid blasus i’w fwyta. Edrychwch ar ein bwydlen i weld yr holl opsiynau.
Figan a llysieuol Mae ein bwydlen yn cynnwys ystod eang o opsiynau llysieuol a figan i’w mwynhau. Chwiliwch am ‘Llysieuol’ neu ‘Figan’ ar y fwydlen.
Halal / حلال / Xalaal Ochr yn ochr â’n hystod eang o brydau figan a llysieuol, mae ein holl gyw iâr yn Halal. Chwiliwch am y gair ‘Halal’ ar ein bwydlen. إلى جانب باقتنا الواسعة من الأطباق النباتية، والتي تتضمن أطباقًا نباتيَّة خالصة، فإن دجاجنا أيضًا يتميز بأنه «حلال» بالكامل. ابحث عن رمز «H» في قائمة الطعام المعروضة لدينا. Ka sokow noocyada kala duwan ee cuntooyinka khudradda, dhammaan digaagayadu waa Xalaal. Meenuugeena ka raadi calaamadda 'H'.
Di-glwten Rydyn ni bob amser yn cynnig prydau di-glwten. Chwiliwch am ‘Di-glwten’ ar ein bwydlen.
Bwyd Cownter Bob bore a drwy gydol y dydd rydyn ni’n cynnig toesenni ffres a detholiad eang o gacennau, i’w bwyta yma neu fel tecawê.