Swyddi a Chyfleuoedd
Rydyn ni’n diogelu gweithle sy’n rhydd rhag pob math o wahaniaethu ac yn hyrwyddo tegwch ar draws ein sefydliad. Rydyn ni wedi’n ffurfio ar sail cyfraniadau gwerthfawr, gwybodaeth a phrofiad yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, ac rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gyrfa neu gyfle creadigol i ddilyn ein Cod Ymddygiad.
Rydyn ni’n gyflogwr cefnogol a chyfeillgar, ac yn cynnig oriau gweithio hyblyg a gweithio hybrid lle bo’n bosib. Rydyn ni’n gyflogwr cyflog byw ac mae ein buddion staff yn cynnwys:
- 5.6 wythnos o wyliau y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau banc, pro rata ar gyfer swyddi rhan amser
- Cinio am ddim pan fyddwch yn gweithio yn yr adeilad
- Dau docyn sinema am ddim y mis
- Gostyngiad ar docynnau sinema a theatr
- 20% oddi ar fwyd a diod yn y Caffi Bar
- Cynllun Cymraeg Gwaith
- Cynllun pensiwn cyfrannol, y byddwch yn cael eich ymrestru iddo’n awtomatig (yn dibynnu ar amodau’r cynllun). Mae’r cynllun yn eich galluogi i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad gan ddefnyddio eich arian eich hunan, ynghyd â rhyddhad treth a chyfraniadau gan Chapter
- Tâl mamolaeth a mabwysiadu uwch ar ôl blwyddyn o wasanaeth
- Mynediad at Raglen Cynorthwyo GweithwyrTe/coffi am ddim o’r Caffi Bar
- Cefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus
- Gofal Llygaid ar gyfer Gwaith Cyfarpar Sgrin Arddangos
- Rheseli beiciau diogel
- Parcio i staff
Mae pob croeso i unrhyw gwestiynau am unrhyw swydd neu gyfle, a gallwch eu hanfon at [email protected].
Yn anffodus nid oes modd i ni noddi ceisiadau am fisa. Mae hyn yn golygu mai dim ond ymgeiswyr sydd eisoes â’r hawl gyfreithiol i weithio yng ngwledydd Prydain y gallwn eu hystyried.
Rip It Up y BFI – galwad am gydweithwyr
Mae Rip It Up yn gyfle i edrych ar sut mae 75 mlynedd o ddiwylliant ieuenctid wedi cael ei adlewyrchu ar y sgrin yng ngwledydd Prydain.
Rydyn ni’n chwilio am ddeg o bobl ifanc i ddewis ffilm nodwedd sy’n cyfleu rhywbeth o ddiwylliant pobl ifanc Cymru neu Brydain
Hoffen ni i chi ysgrifennu nodyn rhaglen 500 gair yn rhannu pam mae’r ffilm yn golygu rhywbeth i chi, a pham dylai cynulleidfaoedd weld y ffilm yma.
-
Amdanom
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
-
-
Cod Ymddygiad
Tra byddwch yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.
-