BFI Film Academy
Rydyn ni’n darparu digwyddiadau, prosiectau a chyfleoedd ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ifanc rhwng 16 a 25 oed ledled Cymru, fel y partner rhanbarthol ar gyfer Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain. Nod y rhain yw eich helpu i ddysgu mwy am ffilm, dod o hyd i’ch llais creadigol, a dechrau eich gyrfa yn y diwydiannau sgrin.
Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu cynnig drwy gydol y flwyddyn:
- Arddangosiadau ffilmiau byrion i gyflwyno eich gwaith ar y sgrin fawr
- Digwyddiadau rhwydweithio i adeiladu eich cysylltiadau
- Dosbarthiadau meistr a mentora gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant
- Grantiau i ariannu ffilmiau byrion microgyllid newydd
- Dangosiadau arbennig gyda chyflwyniadau gwadd a sesiynau holi ac ateb
- Cymorth rhaglennu os hoffech guradu a/neu gynnal eich digwyddiadau ffilm eich hun
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddysgu mwy, anfonwch e-bost at filmacademy@chapter.org. Gallwch ymuno â’n rhestr e-bost yma.
Canllaw Ffilm
Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!