Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor
Introduction to Chapter

Mynediad Fflat

Mae gan Chapter fynediad gwastad i'r adeilad drwy ddrysau awtomatig, a mynediad lifft i'r llawr cyntaf.

Mae ganddon ni ddwy Sinema ar y llawr gwaelod ar ochr dde’r adeilad wrth i chi ddod i mewn drwy’r drysau blaen. Mae lle i gadeiriau olwyn yn y ddwy sinema, yng nghefn Sinema 1 gyda lifft grisiau, ac ym mlaen Sinema 2 gyda mynediad gwastad.

Yn ein Sinemâu a’n Theatrau, rydyn ni’n darparu sedd am ddim i gydymaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl ag anghenion ychwanegol, a phobl sydd â chŵn cymorth. Gallwch gael mynediad at y rhain drwy fewngofnodi a dewis eich anghenion hygyrchedd, neu drwy ofyn wrth y Dderbynfa.

Mae modd cael mynediad at Theatr Seligman ar y llawr cyntaf gyda lifft, ac mae drysau awtomatig a mynediad gwastad o’r lifft i mewn i’r awditoriwm.

Mae mynediad gwastad drwy’r Oriel ynghyd â drysau awtomatig, ac mae ein harddangosfeydd yn cael eu cynllunio i fod yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn.

Parcio

Mae ganddon ni faes parcio am ddim tu ôl i'r adeilad gyda chwech lle dynodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas. Mae tri lle Bathodyn Glas arall yn ein maes parcio blaen.

Tai Bach

Mae tai bach ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, gan gynnwys tai bach pob rhywedd ar y llawr gwaelod yn agos at y Caffi Bar. Mae ganddon ni ddau dŷ bach ar gyfer ein cwsmeriaid anabl ar y llawr gwaelod ac un ar y llawr cyntaf.

Mae ganddon ni hefyd gyfleuster Changing Places (sy'n cynnig digon o le ac offer i bobl sy’n methu defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol) ar y llawr gwaelod yn agos at y Caffi Bar.

Gofod Gweddïo

Oes angen ystafell dawel arnoch chi i weddïo?

Gofynnwch i aelod o’n tîm wrth y Dderbynfa a fydd yn hapus i’ch helpu i ddod o hyd i ofod preifat.

Cŵn Cymorth

Mae croeso i gŵn cymorth ar ein safle.

Os ydych chi’n ymweld â’n sinema neu’n theatr, gallwn drefnu seddi addas gyda lle i’ch ci gael aros gyda chi. Fel arall, rydyn ni’n eich annog i ddod â rhywun gyda chi i ofalu am eich ci pan fyddwch chi yn y digwyddiad. Mae sedd eich cydymaith am ddim, fel bod modd i chi ymlacio a mwynhau’r awyrgylch heb boeni am eich cyfaill blewog.

Os ydych chi’n poeni am gynnwys a allai beri pryder i chi neu eich ci cymorth, edrychwch i weld a oes rhybuddion cynnwys ar ein gwefan, neu siaradwch ag aelod o Dîm Blaen y Tŷ i gael cyngor.

Disgrifiadau Sain

Disgrifiadau Sain

Chapter · Audio Descriptions
Chapter · Disgrifiadau Sain

Dimensiynau eistedd

Sinema 1 - lled 42cm x 47cm dyfnder

Sinema 2 - lled 46cm x 47cm dyfnder

Rhaglennu Hygyrch

Rydyn ni’n anelu i wneud ein rhaglen yn hygyrch i bawb. Rydyn ni’n cynnig ystod o ddangosiadau a digwyddiadau sy’n cynnwys is-deitlau meddal, disgrifiadau sain, dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ac amgylchedd ymlaciol.

Mae is-deitlau meddal wedi'u dylunio ar gyfer pobl F/fyddar a thrwm eu clyw, ac maen nhw’n darparu mwy o wybodaeth nag is-deitlau Saesneg. Maen nhw’n disgrifio pan fydd rhywbeth yn cael ei ganu yn hytrach na’i ddweud, pan fydd cerddoriaeth yn chwarae, ac effeithiau sain arwyddocaol. Nid oes is-deitlau meddal ar gael ar gyfer pob ffilm, ond rydyn ni’n ymdrechu i ddangos y ffilmiau yma mor rheolaidd â phosib, yn ein sinemâu ac wrth arddangos yn yr oriel. 

Chwiliwch am Is-deitlau Meddal ar ein rhestriadau  


Trac sain ychwanegol yw disgrifiadau sain mewn ffilmiau, gyda darlleniad yn disgrifio'r digwyddiadau ar gyfer ymwelwyr sydd â nam ar y golwg. Nid oes disgrifiadau sain ar bob ffilm, ond rydyn ni’n ymdrechu i ddangos y ffilmiau yma pan maen nhw ar gael. 

Mae taith disgrifiadau sain wedi’i recordio ar gael ar gyfer pob arddangosfa yn yr oriel, sydd ar gael ar ein gwefan, neu gallwch ofyn i aelod o dîm yr oriel.

Chwiliwch am Ddisgrifiadau Sain ar ein rhestriadau 


Ar gyfer rhai perfformiadau theatr a digwyddiadau fel sesiynau holi ac ateb yn y sinemâu neu’r oriel, rydyn ni’n cynnig dehongliad Iaith Arwyddion Prydain. Mae hyn yn golygu bod cyfieithu ar y pryd o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain.

Chwiliwch am Iaith Arwyddion Prydain neu BSL ar ein rhestriadau


System cymorth gwrando yw dolen sain cymorth clyw, sy’n darparu mynediad i bobl sy’n colli eu clyw neu sydd â nam ar y clyw ac sy’n defnyddio cymorth clyw. Mae’n defnyddio ffynhonnell sain ac yn ei throsglwyddo’n uniongyrchol i declyn cymorth clyw heb sŵn cefndir, ymyrraeth, nac afluniad acwstig.

Mae dolenni sain cymorth clyw ar gael yn Sinema 1 ac yn ein holl ofodau llogi.

Dangosiadau a Pherfformiadau Ymlaciol

Rydyn ni’n argymell dangosiadau a pherfformiadau ymlaciol i unrhyw un a fyddai’n cael budd o’r newidiadau bach yn amgylchedd yr awditoriwm. Mae hi ychydig yn oleuach, mae’r sain ychydig yn is, ac yn ein sinemâu, does dim hysbysebion na rhagddangosiadau ffilm. Mae croeso i ymwelwyr symud o gwmpas yr awditoria neu wneud sŵn fel hoffen nhw. 

Chwiliwch am Ymlaciol neu ‘R’ ar ein rhestriadau  


Sgrechiwch fel y Mynnwch (Dangosiadau Rhieni a Phlant)

Mae ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob bore Gwener. Maen nhw’n caniatáu i rieni neu ofalwyr â phlentyn o dan flwydd oed weld ffilm heb orfod poeni am amharu ar eraill, a gydag addasiadau i’r amgylchedd sinema i’w gwneud mor gyfleus a chyfforddus â phosib. Mae mynediad am ddim i fabanod, ond cofiwch: dim babi, dim mynediad.

Chwiliwch am BABI yn ein rhestriadau ffilm  


Dangosiadau i bobl â Dementia

Mae ein dangosiadau Addas i bobl â Dementia wedi'u gohirio am y tro. Cadwch lygad ar y dudalen yma i weld y wybodaeth ddiweddaraf. Rydyn ni’n gobeithio dychwelyd yn fuan!  

Cerdyn CEA

Rydyn ni’n derbyn Cardiau CEA, felly gall eich gofalwr neu gydymaith hanfodol gael tocyn am ddim i ddod i’r dangosiad gyda chi.  

Hynt

Rydyn ni’n aelod o Hynt, sef cynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un y mae angen gwybodaeth hygyrchedd benodol arnyn nhw i gynllunio taith i’r sinema.

Mae gan aelodau Hynt hawl i docyn am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr ym mhob theatr a chanolfan gelfyddydau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

I gael gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol ar y cynllun, a sut mae’n gweithio, ewch i www.hynt.co.uk.

Credydau Amser

Gallwch wirfoddoli gyda ni i ennill Credydau Amser. I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn wirfoddolwr, ewch i’r ddolen. Gallwch hefyd gyfnewid Credydau Amser rydych chi’n eu hennill yma neu yn rhywle arall, er mwyn gweld ffilm, ymweld â’n theatr, a mwy.

Os rhowch awr o’ch amser i’ch cymuned, bydd eich cymuned yn rhoi awr yn ôl i chi i’w threulio ar rywbeth rydych chi’n mwynhau ei wneud. Does dim cyfyngiad ar nifer y credydau gallwch chi eu hennill, a’r mwyaf rydych chi’n eu hennill, y mwyaf gallwch ei wario. Does dim dyddiad dod i ben ar Gredydau Amser.

I ddysgu sut mae Credydau Amser yn gweithio, ewch i www.tempotimecredits.org.

Mae gofalwyr neu weithwyr cymorth yn cael mynediad am ddim gydag unrhyw un sydd wedi ennill Credydau Amser ac y mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnyn nhw.

Digwyddiadau

Pori’r rhaglen, prynu tocynnau a chynllunio eich dydd gyda ni.

Learn More

Ymunwch â'n rhestr bostio