Cylch Sgwenwyr

Casgleb o sgwenwyr celf sy’n byw yng Nghymru yw’r Cylch Sgwenwyr, sy’n cynnull yn fisol i brofi a chyfnewid gwaith ysgrifennu newydd ac arbrofol mewn ymateb i raglen Chapter.

Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu am/gyda/o gwmpas celf.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â [email protected].

Cwrdd â’r awduron

Perfformiwr a gwneuthurwr dawns rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell, y mae ei gwaith yn deillio o brofiad personol, mytholeg y gorffennol a’r dyfodol.
@anushiyeyarnell

Mae Col Howarth yn awdur ffuglen fer, barddoniaeth a sgriptiau. Mae wedi cyd-ysgrifennu cyfres o bodlediadau sydd wedi ennill gwobrau ac mae ei waith wedi cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu ei nofel gyntaf a sgript ffilm ac mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol.
[email protected]
| www.colhowarth.com

Cyfarwyddwraig, coreograffydd a pherfformwraig yw Jo Fong sy’n gweithioym meysydd dawns, ffilm, opera, theatr a’r celfyddydau gweledol.

K Wood, cerddor, person creadigol a threfnydd celfyddydau cymunedol sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, gofal cymunedol, a symud tu hwnt i strwythurau cymdeithasol deuaidd.
@obeycobra | @future_arts_collective_cymru

Lisa Tustian, artist sy’n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd, sydd â diddordeb yn y naratifau sy’n cael eu hawgrymu gan yr anghydweddol, y darganfyddedig, a chydweithredwyr diarwybod.
@walking.magpie

Lucy Smith, awdur ffuglen a hwylusydd ac mae’n byw yng Nghaerdydd.
lucysmithwriter.com | @lucysmithwriter

Artist perfformio sy’n byw yng Nghaerdydd yw Pam Rose Cott. Mae’n lleisydd sy’n cyfuno sain arbrofol, ysgrifennu a pherfformiad. Mae’n un o aelodau sefydlu ‘Pasta Now’, sef casgleb o fenywod a phobl draws ac anneuaidd sy’n edrych yn ddwfn ar sain arbrofol. Mae hi hefyd yn gweithio gyda thecstilau, brodwaith a gwehyddu, a’u harwyddocâd hanesyddol fel ffurf matrilinachol ar gelfyddyd.

Awdur, perfformiwr, model bywyd a gwneuthurwr theatr yw Stephanie Penhaligon, sy’n byw yng Nghaerdydd ac wedi’i magu yng Nghernyw. Mae’n chwarae gyda symudiad mewn geiriau ac mewn llonyddwch.

Artist o Gymru yw Tess Gray.
@tessgrayart

Mae’r artist a’r perfformiwr Tess Woof yn ymwneud yn ddwys ag ymchwilio a chynhyrchu gwaith celf byw cydweithredol. Mae’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan y bobl o’u cwmpas, gan ddefnyddio rhoddion a dylanwadau cyflyrau emosiynol dwfn o ymddiriedaeth, pentrefi gwledig Cymru, safbwyntiau anneuaidd, a rhedeg yn ddall i anhrefn pur.

Hydref/gaeaf 2025

SERAFINE1369: (my body / running wild / this animal) glorious, 9 Hydref 2025
‘Gwaith ar waith’ grŵp.

The dance exists before it happens
Enter
Begin
Eyes closed
The walking body becomes three dimensions, all surfaces of the air are met by surfaces of the
body, swift, an antennae, a reading. A receiving.

Darllenwch ymateb Jo Fong

We are atoms, spinning, conversing and colliding, changing pace and shape and form in space.

Darllenwch ymateb Col Howarth

___

Beth Greenalgh and Tim Bromage: (Un)conscious Content, 14-16 Tachwedd 2025
Y cyntaf mewn cyfres o berfformiadau sy’n archwilio pensaernïaeth amrywiol ac anarferol breuddwydion.

It’s like watching the hands that pull the strings
[I wonder if I should try to wake them]
They are always outlines of themselves
When we move, follow us

Darllenwch ymateb Lucy Smith

A light and shadow interplay. Spoken snips, part heard, some snatched. Lights breathe and the drone pulse lulls, pulling us deeper.

Darllenwch ymateb Col Howarth

  • Amdanom

    Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.

  • Oriel

    Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 12–5yp.

  • Sinema

    Dewch i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu ailddarganfod hen glasur, a phrofi sinema gwbl unigryw.

    Cymerwch gip ar y digwyddiadur ffilmiau.

  • Theatr

    O artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.

    Cymerwch gip ar y digwyddiadur perfformiadau.