Teuluoedd
Mae ein lleoliad yn addas i deuluoedd ac rydyn ni’n croesawu ymwelwyr o bob oed. Rydyn ni am danio’r dychymyg a chefnogi dysgu a chwarae creadigol.
Yn fwy na dim, rydyn ni am i Chapter fod yn lle hwyliog, diddorol a diogel lle gall pobl ifanc a’u teuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a dod i nabod pobl eraill yn ein cymdogaeth.
Parhewch i ddarllen i weld sut rydyn ni’n cefnogi teuluoedd.
Mae gan ein lleoliad gaffi bar agored a digon o le i ddifyrru’r rhai bach.
Mae ganddon ni ystod o gemau a phosau i’w chwarae pan fyddwch chi’n aros am fwyd neu ffilm.
Rydyn ni’n croesawu bwydo ar y fron, ac mae digon o lefydd tawel os hoffech fynd i rywle o’r golwg.
Mae digonedd o gadeiriau uchel yma i’w defnyddio.
Ewch i’n tudalen Ymweld i gael gwybodaeth am oriau agor a theithio.
Ewch i’n tudalen Hygyrchedd a Chyfleusterau i gael gwybodaeth am hygyrchedd, parcio a thoiledau.
Mae ein rhaglen deuluol yn cynnig digwyddiadau hygyrch a chost isel drwy gydol y flwyddyn. Edrychwch beth sydd ’mlaen.
Oriel
Gadewch i’ch dychymyg lifo am ddim yn ein horiel. Gallwch ymweld â’r arddangosfa o ddydd Mawrth tan ddydd Sul, 12-5pm.
Mae cynorthwywyr cyfeillgar yr oriel yn hapus i sgwrsio am y gwaith i ysbrydoli meddyliau bach!
Mae taflenni lliwio a phecynnau synhwyraidd, sy’n cynnwys teganau ffidlan ac amddiffynwyr clustiau, ar gael bob amser i gyd-fynd â’n harddangosfeydd.
Dylech nodi bod rhaid i oedolion fod gyda phlant o dan 14 oed gan fod ein harddangosfeydd yn gallu cynnwys deunydd sy’n fwy addas i oedolion neu waith cywrain iawn sy’n fregus i ddwylo bach chwilfrydig.
Sinema
Rydym yn cynnig rhaglen rheolaidd o ffilmiau teulu. Mae’r dangosiadau yma’n ymlaciol gyda mwy o olau. Mae croeso i chi fynd a dod, a dod â byrbrydau i gadw pawb yn hapus! Rydyn ni’n cynnig ystod o opsiynau melys a sawrus yn ein caffi bar, gan gynnwys popcorn, losin figan a chreision.
Mae ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore Gwener ar gyfer rhieni a gwarcheidwaid sydd â babanod o dan 12 mis oed. Mae’r amgylchedd yn ymlaciol a does dim angen pryderu dim am darfu ar eraill. Am ddim i fabanod.
Os hoffech integreiddio ffilm i addysg pobl ifanc, cymerwch gipolwg ar ein cyfoedion stiwdio Into Film Cymru.
Theatr
Rydyn ni’n dangos perfformiadau addas i’r teulu drwy gydol y flwyddyn – mae ein rhaglen i’w gweld isod. Cydwch lygad ar ein cyfoedion stiwdio Theatr Iolo, Flossy & Boo a Theatr Taking Flight sy’n cynhyrchu gwaith theatr gwych i’r teulu.
Caffi Bar
Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnal ystod o ddigwyddiadau am ddim yn ein gofodau cymdeithasol ac yn ein gardd gymunedol hyfryd. Mae’r rhain yn cynnwys dawnsio, perfformiadau, gwyliau, a gweithdai celf a chrefft. Dyma ffordd wych o ddod â’r gymuned at ei gilydd, ac maen nhw fel arfer yn cynnwys ystod o weithgareddau i bobl ifanc. Cofrestrwch i fod ar ein rhestr e-bost i fod gyda’r cyntaf i wybod amdanyn nhw!
Dosbarthiadau
Mae ein cymuned greadigol yn cynnig ystod ddeinamig o ddosbarthiadau wythnosol yn ein hadeilad. O ddawnsio tap a bale i gerddoriaeth, Tae Kwondo a drama, bydd rhywbeth yn sicr at ddant eich rhai bach. Dyma’r dosbarthiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n gweini prydau iach i foliau bach. Dyma ein bwydlenni llawn.
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn lle diogel i bawb, mae’r amodau canlynol yn berthnasol i ymwelwyr o dan 18 oed.
Dan 14 oed
- Rhaid bod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad ar bob adeg
- Rhaid gadael yr adeilad erbyn 9pm
14-15 oed
- Rhaid bod yng nghwmni oedolyn yn y caffi bar neu’r ardd gwrw
- Gallant ddefnyddio gofodau di-alcohol penodol heb gwmni oedolyn
- Rhaid bod yng nghwmni oedolyn os ydynt ar y safle ar ôl 9pm
- Rhaid gadael yr adeilad erbyn 10.30pm
16-18 oed
- Rhaid bod yng nghwmni oedolyn yn y caffi bar neu’r ardd gwrw
- Gallant ddefnyddio gofodau di-alcohol penodol heb gwmni oedolyn
- Gallant aros yn hwyrach na 9pm heb gwmni oedolyn pan fyddant yn mynd i ddigwyddiad
- Rhaid gadael yr adeilad erbyn 10.30pm
Gofynion ein trwydded yw’r rhain, ac maen nhw’n berthnasol drwy’r adeilad cyfan. Dylech wirio amser gorffen unrhyw ffilm, perfformiad neu ddosbarth cyn archebu.
Diolch i chi am ddeall ac am eich cefnogaeth barhaus.
What's on
-
- Workshops
Dan Johnson: A Summer of Deep Listening
Ymunwch â ni mewn cyfres o weithdai gwrando a sain chwareus gan Dan Johnson, wedi’u hysbrydoli gan waith Pauline Oliveros. Agored i bob oed a gallu.
-
- Art
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.