Celf
LIGHTBOX: A weed is a plant in the wrong place by Adham Faramawy
Nodweddion
Mae dau ddawnsiwr mewn cae o chwyn tân i’w gweld yn fawr ar draws ein mynedfa yn y gwaith celf yma gan Adham Faramawy. Mae un dawnsiwr yn sefyll yn adlewyrchu coesynnau tal y planhigyn ac mae’r llall yn cyffwrdd â’i betalau pinc.
Mae chwyn tân, sy’n aml yn cael ei ystyried yn chwyn, yn blanhigyn sy’n hunan-hadu ac sydd â’r gallu eithriadol i dyfu ar dir llosg. Wrth osod cyrff wedi’u hymyleiddio yn y dirwedd yma ac yn trin y dirwedd gyda thestun sy’n darllen ‘Planhigyn yn y man anghywir yw chwyn’, mae Adham yn dad-sefydlogi’r syniadau o wreiddiau a’r ‘naturiol’. Pwy sy’n penderfynu pwy sy’n perthyn a phwy mae croeso iddynt?
I Adham, mae natur yn lle ar gyfer lloches a gwytnwch, yn ofod o orgyffwrdd a gwrthsafiad, lle mae planhigion yn ffynnu er gwaethaf dadleoliad ac mae chwyn yn gwrthsefyll amgylcheddau gelyniaethus.
___
Ynglyn â'r artist
Mae Adham Faramawy yn artist o dras Eifftaidd sy’n byw yn Llundain. Mae eu gwaith yn cyfuno cyfryngau gan gynnwys delwedd symudol, gosodwaith cerfluniol, ffotograffiaeth, print a phaentio, gan ymgysylltu â materion fel defnyddioldeb, cyffyrddiad, y corff a thocsigedd, i gwestiynu syniadau am natur mewn perthynas â chymunedau ymylol. Mae Faramawy wedi dangos gwaith yn Amgueddfa Guggenheim, Efrog Newydd; y Tate Modern a Tate Britain, Llundain, ac Oriel Serpentine, Llundain. Cyrhaeddon nhw’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Jarman Film London yn 2017 a 2021. Yn 2023, nhw oedd derbynnydd Gwobr Artist Frieze.
Gosodwaith ar yr hysbysfwrdd
Darn o waith celf deunaw metr o led a gomisiynwyd ar gyfer yr hysbysfwrdd uwch ben ein prif fynedfa.
More at Chapter
-
- Celf
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Cynnal yn Chapter
The Arts Society
-
- Celf
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Celf
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.