Art
Abi Palmer : Slime Mother
Nodweddion
Pam bod yn wlithen? Mae arddangosfa unigol gyntaf Abi Palmer yn creu bydysawd amgen, lle caiff gwlithod eu haddoli yn hytrach na’u trin â ffieidd-dod. Drwy lysnafedd, cwiardeb, gwleidyddiaeth gofod a defodau paru estron a hynod erotig, mae Slime Mother yn gwahodd cynulleidfaoedd i uno ac i gysylltu gyda’r gastropod cymhleth yma, a chofleidio ei ryfeddod gwydn. Paratowch i adael yn teimlo ychydig yn fwy gwlithenaidd...
“Dw i’n uniaethu gyda'r wlithen: Dw innau hefyd wedi cael fy ystyried gyda ffieidd-dod, yn ddim gwell na’r pla sy’n dwyn ysbail gan y ffermwr diwyd. Unwaith y bydda i’n rhoi lle i fy hunan i symud i ffwrdd o’r ffieidd-dod a’r ffobia dwfn, dw i’n canfod lle ar gyfer harddwch, diddordeb, a hyd yn oed parch sgleiniog tuag at greadur a ddaeth yn fwy ffiaidd fel ffordd o oroesi”
I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd cyhoeddiad newydd gan Abi, Slugs: A Manifesto, a gyhoeddwyd gan Makina Books.
___
Ynglŷn ag Abi Palmer
Artist ac awdur yw Abi Palmer. Mae’n defnyddio ffilm, testun, cerflunwaith, ac ymyrraeth synhwyraidd i archwilio cyrff sâl, gweadau gludiog a thirweddau ecolegol.
Mae ei gwaith yn cynnwys y gyfres ffilm Abi Palmer Invents the Weather (Artangel, 2023); y llyfr Sanatorium (Penned in the Margins, 2020); ac arcêd gamblo ryngweithiol Crip Casino (a arddangoswyd yn y Tate Modern, Somerset House, Wellcome Collection a Collective Edinburgh.
Dewiswyd ei cherfluniau o wlithod yn paru ar gyfer y Frieze Corridor Commission (2023) fel rhan o Wobr Outset Studiomakers. Hi yw artist New Contemporaries Bloomberg (2023); mae’n dderbynnydd ‘Awards for Artists’ (2021) Sefydliad Hamlyn a gwobr ‘Thinking Time’ Artangel (2020). Cyrhaeddodd Sanatorium y rhestr fer ar gyfer Gwobr Barbellion.
Noddwyd y prosiect yma gan Henry Moore Foundation, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Hysbysrwydd
Taflen print bras
Taflen hawdd ei ddeall
Arddangosfa
Gwyliwch daith yr oriel gan Abi Palmer
More at Chapter
-
- Art
On hold on
Sophie Mak-Schram
Ar draws ein mynedfa mae delweddau o weithiau celf, gwrthrychau a deunyddiau o Amgueddfa Cymru sydd wedi’u hanwybyddu yn arnofio ar draws yr awyr.
-
- Art
In a thread of air
Imogen Stidworthy
Mae gosodwaith a delwedd symudol Imogen yn ffurfio tirlun sonig-somatig o leisio, wedi’i siapio gan bobl sy’n profi gwahanol ffyrdd o fod.
-
- Art
Acquisition Ongoing: Carbon Age Souvenirs
Lu Williams
“Siop roddion” y dyfodol lle mae gwrthrychau a phrintiau yn cael eu hail-ddychmygu fel arteffactau diwylliannol ffuglen ddyfaliadol.
-
- Art
COMMS FAIL
Roy Claire Potter
Gosodwaith sain lle mae gwrthrychau, arwynebau a deunyddiau yn dod yn lleisiau gweithredol mewn amgylchedd gwrando ymdrochol.