Eich Sedd, Eich Stori

Mae pobl yn ymweld â ni i fwynhau ffilmiau, theatr, ard­dan­gos­feydd, neu, yn syml, i dreulio amser mewn lle sy’n teimlo fel eu lle nhw. Mae mabwysiadu sedd yn caniatáu i chi gofnodi’r cysylltiad yna, gydag enw a neges fer wedi’i hysgythru ar blac ar gefn sedd yn y sinema neu’r theatr.

Os ydych chi’n dathlu carreg filltir, yn anrhydeddu rhywun, neu’n cydnabod beth mae Chapter yn ei olygu i chi, mae’n ffordd bersonol o gefnogi ein dyfodol.

Beth mae mabwysiadu sedd yn ei olygu?

  • Plac personol wedi’i ysgythru ar sedd sinema neu theatr
  • Eich neges mewn lle am bum mlynedd
  • Cyfraniad sy’n ein cefnogi ni fel elusen
  • Ffordd ddiriaethol o ddangos eich cysylltiad

Cost: £250 am bum mlynedd

Pam mae'n bwysig

Mae Chapter yn elusen ac yn ganolfan gelfyddydau sydd wrth wraidd bywyd diwylliannol a dinesig Caerdydd. Nid yw gwerthiannau tocynnau, incwm y caffi a’r bar, a chyllid cyhoeddus yn talu am bopeth sydd ei angen arnon ni er mwyn cadw’n drysau ar agor a’n rhaglen yn amrywiol, yn hygyrch ac yn uchelgeisiol.

Mae mabwysiadu sedd yn helpu i gefnogi:

  • Gwaith ffilm, theatr, arddangosfeydd a digwyddiadau annibynnol
  • Artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau ledled Caerdydd a thu hwnt
  • Cynaliadwyedd hirdymor Chapter fel canolfan gymunedol a gofod celfyddydol cyhoeddus

Mae hefyd yn rhan o sut mae pobl yn dechrau perthynas ddyfnach gyda ni, ochr yn ochr ag aelodaeth Ffrindiau Chapter, rhoddion a chymynroddion.

Gall eich sedd nodi

  • Pen-blwydd, deng mlwyddiant, neu ymddeoliad
  • Cofeb neu deyrnged
  • Cariad hyd oes at sinema neu’r celfyddydau
  • Traddodiad teuluol o ddod i Chapter
  • Does dim un rheswm, dim ond eich rheswm chi.

Sut mae'n gweithio

Mae mabwysiadu sedd yn broses syml, a byddwn ni’n eich cefnogi cam wrth gam.

Prynu ar-lein

Mae mabwysiadu sedd yn broses syml, a byddwn ni’n eich cefnogi cam wrth gam.

Ar ôl i chi wneud eich pryniant, bydd aelod o’r tîm codi arian yn cysylltu â chi i drafod manylion eich sedd.

Byddwn ni’n eich helpu i ddewis ym mha sinema neu theatr fydd eich sedd a’r geiriad ar gyfer eich plac.

Does dim angen penderfynu ar bopeth ymlaen llaw; rydyn ni’n edrych ymlaen i glywed eich stori a’ch helpu i siapio eich ymroddiad.

Eisiau sgwrsio cyn prynu?

Os byddai’n well gennych chi gael sgwrs ymlaen llaw, bydden ni’n falch iawn o glywed gennych chi. Cysylltwch â ni yn [email protected].

Wedi mabwysiadu sedd yn barod?

Bydden ni’n falch iawn o glywed beth mae eich sedd yn ei olygu i chi. O dro i dro, rydyn ni’n rhannu straeon gan ddeiliaid seddi i ddathlu’r ffyrdd amrywiol mae pobl yn creu cysylltiad â Chapter.

Os hoffech rannu eich stori, cysylltwch â ni drwy [email protected].

Mae eich cefnogaeth yn sicrhau bod Chapter yn aros yn lle croesawgar a chreadigol ar gyfer cenedlaethau i ddod. Diolch!

  • Ffrindiau

    Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.

  • Rhoddi

    Mae pob ceiniog rydych chi’n ei gwario yn cefnogi ein gwaith ac yn ein galluogi ni i fod yn ganolfan fywiog i’n cymuned.

  • Cymynroddion

    Nid yw cymynrodd yn costio dim byd i chi nawr, ond gallai olygu llawer i genedlaethau’r dyfodol a fydd yn mwynhau Chapter cymaint â chi.