Cymynroddion

Ffordd o gefnogi creadi­grwydd, cymuned a’r celfyddydau yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.

Mae Chapter wedi’i hen sefydlu fel lle i bobl ddod at ei gilydd; i wylio ffilmiau, i brofi perf­formiadau byw, i ddarganfod celf, ac i dreulio amser mewn lle sy’n teimlo’n agored ac yn groesawgar.

Drwy ddewis gadael rhodd i ni yn eich ewyllys, gallwch helpu i sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi artistiaid, cynul­leid­faoedd a’n cymunedau lleol am flynyddoedd lawer i ddod.

Pam ystyried cymynrodd?

Mae rhoi rhodd yn eich ewyllys yn ffordd ystyrlon o’n cefnogi ni yn yr hirdymor. Mae’n ein helpu ni i gynllunio’n hyderus, a pharhau i gynnig rhaglenni uchelgeisiol a chynhwysol wedi’u creu gyda’r cymunedau sydd ar garreg ein drws.

Gallai eich cymynrodd helpu i wneud y canlynol:

  • cefnogi artistiaid ar wahanol gamau o’u gyrfa
  • cadw ein rhaglen yn hygyrch ac yn fforddiadwy
  • ein cynnal fel cartref creadigol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
  • ein helpu i gefnogi a gweithio gyda chymunedau lleol

Mae pob rhodd, beth bynnag ei faint, yn gwneud gwahaniaeth.

Ein hymrwymiad i chi

Os ydych chi’n dewis cynnwys Chapter yn eich ewyllys, gallwch fod yn hyderus:

  • y bydd eich rhodd yn cael ei drin â gofal a pharch
  • y bydd eich gwybodaeth yn aros yn gyfrinachol
  • y bydd eich cefnogaeth yn cael ei defnyddio’n gyfrifol i hyrwyddo ein nodau elusennol
  • bod rhwydd hynt i chi newid eich cynlluniau ar unrhyw adeg

Os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni am eich rhodd, bydden ni’n falch o gael cyfle i ddiolch i chi a chydnabod eich haelioni mewn ffordd sy’n teimlo’n gywir i chi.

Ffyrdd o adael rhodd i ni

Mae sawl ffordd y gallwch gynnwys Chapter yn eich ewyllys.

Efallai y byddwch yn dewis gadael:

  • rhodd o swm penodol
  • cyfran o’ch ystâd, ar ôl gofalu am ymrwymiadau eraill
  • eitem neu ased benodol yn rhodd, fel eiddo neu gyfranddaliadau

Gall gadael rhodd i elusen hefyd leihau’r dreth etifeddiaeth sy’n daladwy ar eich ystâd. Rydyn ni fel arfer yn annog rhoddion di-gyfyngiad, gan fod hyn yn ein galluogi ni i ymateb i anghenion yn y dyfodol.

Os oes ewyllys eisoes gennych chi, nid yw hi’n rhy hwyr cynnwys Chapter, drwy ychwanegu addasiad syml, o’r enw codisil.

Rydyn ni’n eich annog i geisio cyngor gan gyfreithiwr cymwysedig wrth greu neu ddiweddaru eich ewyllys.

I’ve lifted this from what other charities state but will check it more thoroughly to ensure it is correct.

Siaradwch gyda ni

Os hoffech ddysgu mwy, gofyn cwestiwn, neu gael sgwrs gyfrinachol am adael rhodd i Chapter, cysylltwch â’n tîm codi arian yn [email protected]. 

  • Rhoddi

    Mae pob ceiniog rydych chi’n ei gwario yn cefnogi ein gwaith ac yn ein galluogi ni i fod yn ganolfan fywiog i’n cymuned.

  • Ffrindiau

    Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.

  • Eich Sedd, Eich Stori

    Mabwysiadwch un o’n seddi hyfryd yn y theatr neu’r sinema fel gwaddol i ffrind, cydweithiwr neu anwylyd, neu ar gyfer pen-blwydd, i ddathlu carreg filltir neu er cof am rywun.