Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni ar restr fer Amgueddfa’r flwyddyn Art Fund 2025

  • Published:

Mae cyhoeddiad wedi datgelu ein bod ni yn un o’r pum amgueddfa sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Amgueddfa’r Flwyddyn Art Fund 2025, sef y wobr fwyaf yn y byd i amgueddfeydd. 

Bob blwyddyn mae Art Fund, yr elusen genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd ac orielau, yn llunio rhestr fer o bum amgueddfa ragorol ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn. Mae gwobr 2025 yn cydnabod prosiectau a gweithgarwch ysbrydoledig rhwng hydref 2023 a gaeaf 2024. Yn ogystal ag edrych ar lwyddiannau cyffredinol y sefydliad, mae’r beirniaid yn cael y dasg o nodi prosiectau effeithiol sy’n taflu goleuni ar yr ystod eang o bobl nodedig, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfeydd, sy’n dod ag amgueddfeydd yn fyw drwy ymgysylltu â chymunedau, teuluoedd ac ymwelwyr iau, artistiaid a phobl greadigol.

"Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr glodwiw yma, ac yn falch iawn o gael bod mewn cwmni mor dda! Mae’r clod yma’n destament i’r llu o artistiaid, partneriaid, cydweithwyr creadigol, y staff a’r gwirfoddolwyr gwych sy’n cynnig eu hegni a’u dychymyg i’n lleoliad bob dydd. Rydyn ni’n falch o gynrychioli Cymru a’r cymunedau sydd wedi bod yn gefn i ni am y 54 mlynedd diwethaf."

—Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig a Chyd-gyfarwyddwr

Yr amgueddfeydd eraill sydd ar y rhestr fer yw Beamish, The Living Museum of the North (Swydd Durham); Compton Verney (Swydd Warwick); Oriel Golden Thread (Belffast) ac Amgueddfa Perth (Perth).

Bydd yr amgueddfa fuddugol, a fydd yn derbyn £120,000, yn cael ei chyhoeddi ar 26 Mehefin mewn seremoni yn Amgueddfa Lerpwl, a dyma fydd y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal y tu allan i Lundain. Bydd £15,000 yn cael ei roi i’r pedair amgueddfa arall yn y rownd derfynol – gyda chyfanswm y gwobrau’n dod i £180,000.  

Ar banel beirniadu 2025, dan gadeiryddiaeth cyfarwyddwr Art Fund, Jenny Waldman, mae: Rana Begum (Artist), Dr David Dibosa (Cyfarwyddwr Ymchwil a Dehongli, Tate), Jane Richardson (Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru) a Phil Wang (Digrifwr, Awdur, Actor). Bydd y beirniaid yn ymweld â phob amgueddfa sydd yn y rownd derfynol i lywio eu penderfyniad, tra bydd pob amgueddfa yn gwneud y mwyaf o fod ar y rhestr fer drwy’r haf gyda digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer eu hymwelwyr newydd ac arferol.

Yn siarad ar ran y beirniaid, meddai Jenny Waldman, Cyfarwyddwr Art Fund:

"Congratulations to Chapter on being shortlisted for Art Fund Museum of the Year 2025. This year’s finalists are inspiring examples of museums at their best – deeply connected to their local communities, responsive to the world around them, and alive with energy and ideas. Each one offers a distinctive experience, showing the endless creativity and care that goes into making museums inspiring and exciting spaces for everyone. Art Fund is proud to celebrate their work and support their ambition through Art Fund Museum of the Year. We hope people across the UK will be inspired to visit these remarkable places and museums in their local area to discover the powerful role they can play in our lives."

Ariennir y wobr diolch i haelioni aelodau Art Fund sy’n prynu Tocyn Celf Cenedlaethol. Gall deiliaid Tocyn Celf Art Fund gael tocynnau am £5 i ddigwyddiadau yn sinema neu theatr Chapter rhwng 29 Ebrill a 26 Mehefin 2025, gyda 10% i ffwrdd yn y caffi drwy’r flwyddyn gron.