Artes Mundi 11, partner cyflwyno: Sefydliad Bagri
- Published:
Arddangosfa eilflwydd rhif unarddeg
24Hydref 2025 – 1 Mawrth 2026
Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa, a gynhelir rhwng 24 Hydref 2025 a 1 Mawrth 2026. Yn dilyn llwyddiant AM10, bydd AM11 yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol eto mewn pum lleoliad partner, gyda Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Cyhoeddir enw enillydd Gwobr fawreddog Artes Mundi gwerth £40,000 – gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU – mewn derbyniad gwobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 15 Ionawr 2026.
Bydd gwaith gan bob artist i’w weld mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hynny’n ganolbwynt canolog fydd yn cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau pwysig fydd yn cynrychioli craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu datgelu deialog thematig rhwng pob artist, yn seiliedig ar hanesion a straeon personol sy’n archwilio cwestiynau am golled, cof, ac ymfudo, a’r trawma a’r gost amgylcheddol sy’n deillio. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol cynhwysfawr ledled y wlad.
Dyma leoliadau cyflwyno gweithiau unigol AM11: Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno.
Fel llwyfan hanfodol i gyfnewid diwylliannol rhwng cymunedau artistig y Deyrnas Unedig a’r byd, a’i ffocws ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi’n casglu arddangosfa sylweddol at ei gilydd bob dwy flynedd o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i draddodiad o gyflwyno gwaith arbennig yng Nghymru sy’n ymdrin â chwestiynau mawr ein hoes.
-
Photo by Polly Thomas -
Photo by Polly Thomas -
Photo by Polly Thomas -
Photo by Polly Thomas
Manylion am arddangosfeydd artistiaid AM11 a’u lleoliadau
Sancintya Mohini Simpson yn Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
g.1991 Brisbane, yn byw ac yn gweithio yn Meeanjin/Brisbane, Awstralia
Mae Sancintya Simpson yn ddisgynnydd i lafurwyr rhwymedig a anfonwyd o India i weithio ar blanhigfeydd siwgr trefedigaethol yn Ne Affrica. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn y cefndir teuluol hwn, ac yn ymwneud â chymhlethdodau ymfudo, cof a thrawma, gan roi sylw i fylchau a lleisiau mud yn yr archif drefedigaethol. Mae ei gwaith yn cynnwys peintio, fideo, barddoni a pherfformio, ac mae’n trafod ei llinach famol trwy naratifau a defodau. Bydd gwaith dyfrlliw a gouache aml-baneli ar raddfa fawr ar bapur, sy'n cyfeirio at draddodiadau peintio mân-luniau Indiaidd, yn ogystal â'r tirweddau awyrol sy'n gyffredin mewn celfyddyd Frodorol Awstralia, yn cael ei gyflwyno yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar fenthyg gan MCA, Sydney, Awstralia. Ochr yn ochr â’r benthyciad hwn o gasgliad amgueddfa fawr yn Awstralia, cyflwynir Sugar Vessels, gwaith lle mae tri llestr clai du (wedi’u tanio mewn past câns siwgr) yn symbolau sy’n cynrychioli corff, dŵr a chwch, gan gyfeirio at deithiau ymfudo dros y môr a hanes tywyll y diwydiant siwgr a’i waddol. Yn Chapter, bydd Simpson yn cyflwyno darnau newydd a diweddar ar gyfer AM11, gan ddefnyddio siwgr cansen fel pigment, gan fyfyrio ar hanesion teuluol a byd-eang gan gynnwys gosodiad o weithiau tebyg i sgrôl a thestun wedi'i ysgrifennu â llaw ochr yn ochr â chyfresi eraill o weithiau ar bapur. Bydd gosodiad cerfluniol wedi'i ailgyflunio ar raddfa fawr gyda sain yn meddiannu'r orielau canolog, a bydd yn cael ei ysgogi ymhellach gan berfformiad ar y noson agoriadol. Dangosir y fideo Dhuwa hefyd. Gair Bhojpuri am fwg yw Dhūwã̄’, un o’r termau a ddefnyddid gan lafurwyr rhwymedig yn Natal (KwaZulu-Natal, De Affrica), a bydd ei arogl i’w glywed yn y gosodwaith.
Pob ymholiad i'r wasg
Matthew Brown yn Sam Talbot | [email protected] | +44 (0) 7989 446557
Alicia Lethbridge yn Sam Talbot | [email protected] | + 44 (0) 7526 204773
Y wasg Gymraeg
Mary Jones yn Artes Mundi | [email protected]
___
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae Sancintya Mohini Simpson (g. 1991) yn ddisgynnydd o lafurwyr rhwymedig a anfonwyd o India i weithio ar blanhigfeydd siwgr trefedigaethol yn Ne Affrica. Mae ei gwaith yn llywio cymhlethdodau mudo, y cof, a thrawma— gan fynd i’r afael â bylchau a thawelwch o fewn yr archif drefedigaethol. Mae ei gwaith yn cwmpasu peintio, fideo, barddoniaeth a pherfformiad, gan fyfyrio ar ei llinach ar ochr ei mam drwy naratifau a defodau. Mae Simpson wedi cynnal arddangosfeydd unigol diweddar yn Oriel Milani, Sefydliad Celf Fodern Belltower, Brisbane ac Oriel Stiwdio 1ShanthiRoad, Bangalore. Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys Biennale TarraWarra 2023 a Biennale Busan 2022. Cyhoeddir barddoniaeth Simpson mewn amryw gyfnodolion, ac mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau pwysig, gan gynnwys Oriel Gelf De Cymru Newydd, Art Jameel, Dubai; KADIST, Paris ac Amgueddfa Celf Gyfoes Awstralia, Sydney. Fe’i cynrychiolir gan Oriel Milani, Brisbane.
___
Gwybodaeth am Artes Mundi 11
Cynhelir yr Arddangosfa: 24 Hydref 2025 – 1 Mawrth 2026
Pris mynediad: Am ddim
Gwybodaeth: www.artesmundi.org | [email protected] | @artesmundi
___
Gwybodaeth am Artes Mundi
Artes Mundi yw’r prif fudiad celfyddydau gweledol rhyngwladol ar gyfer Cymru, wedi’i leoli yng Nghaerdydd, y DU. Sefydlwyd Artes Mundi yn 2002, ac mae wedi ymrwymo i weithio gydag artistiaid y mae eu gwaith yn ymwneud â realiti cymdeithasol a phrofiad uniongyrchol. Consortiwm o bartneriaid cychwynnol, Cyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru, Cyngor Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Bwrdd Croeso Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, oedd y sylfaen ar gyfer adeiladu ein gwaith. Cynhelir arddangosfa a gwobr Artes Mundi bob dwy flynedd, ac ochr yn ochr â hyn ceir rhaglen gyhoeddus barhaus, partneriaethau cymunedol cyd-greadigol, prosiectau a chomisiynau. Yr enillwyr blaenorol yw Taloi Havini (2024), Apichatpong Weerasethakul (2019), John Akomfrah (2017), Theaster Gates (2015), Teresa Margolles (2013), Yael Bartana (2010), N S Harsha (2008), Eija-Liisa Ahtila (2006), a Xu Bing (2004). Am y tro cyntaf yn hanes Artes Mundi, penderfynodd y rheithgor yn unfrydol yn 2021 i ddyfarnu Gwobr Artes Mundi 9 i bob un o’r chwe artist a gyrhaeddodd y rhestr fer.
Sefydliad Bagri yw’r Partner Cyflwyno ar gyfer Artes Mundi 10 (2023) ac Artes Mundi 11 (2025).
Mae Artes Mundi yn cael cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd ochr yn ochr â chefnogaeth arall sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Sefydliadau, Ymddiriedolaethau, llysgenadaethau, asiantaethau diwylliannol ac unigolion.
Ynglŷn â’r Bagri Foundation
Mae’r Bagri Foundation, a sefydlwyd ym 1990, yn sefydliad teuluol sy’n cael ei yrru gan ysbryd o chwilfrydedd. Ein gweledigaeth yw meithrin gofod ystyrlon i ddiwylliant Asiaidd ffynnu, newid safbwyntiau a dyfnhau cysylltiadau.
Mae’r sefydliad yn gweithio o fewn rhwydwaith o sefydliadau diwylliannol blaenllaw sy’n rhannu’r genhadaeth hon, i roi mwy o sylw i artistiaid ac arbenigwyr o bob rhan o Asia ar y llwyfan byd-eang. Rydym yn hyrwyddo mentrau artistig amrywiol sy’n ein herio a’n hysbrydoli ni a’n cynulleidfaoedd. Trwy grantiau a phartneriaethau strategol, rydym yn gwireddu rhaglenni unigryw o ansawdd uchel sy’n rhannu diwylliant Asiaidd traddodiadol a chyfoes.
Mae’r prosiectau a gefnogwyd yn ddiweddar yn cynnwys Asian Bronze: 4000 years of Beauty yn y Rijksmuseum, Amsterdam; cefnogaeth sylweddol i raglen agoriadol y Cyfarwyddwr Artistig newydd Indhu Rubasingham yn y Theatr Genedlaethol, yn cynnwys Hamlet a The Jungle Book; cyd-gynhyrchiad, Thikra: Night of Remembering, gan Gwmni Akram Khan; a chyflwyniad unigol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i’r artist o Indonesia Citra Sasmita: Into Eternal Land yn y Curve Gallery, Barbican, Llundain.
Yn ogystal â’r rhaglen gelfyddydau cyhoeddus, mae tair cenhedlaeth o’r teulu yn parhau i gefnogi mentrau addysg, lliniaru tlodi, a iechyd. https://bagrifoundation.org