Chapter a Deaf Gwdihŵ yn comisiynu tri artist byddar i greu gwaith mewn ymateb i’r thema, Ein Rhyddid: Ddoe a Heddiw

  • Published:

Mae eleni’n nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, sy'n cael ei nodi gan gyfres o ddigwyddiadau a dathliadau ledled gwledydd Prydain.

Future Arts Centres sy’n arwain Ein Rhyddid: Ddoe a Heddiw, sef rhaglen o brosiectau artistig dan arweiniad y gymuned sy’n digwydd mewn 60 o ganolfannau celfyddydau a llyfrgelloedd ledled gwledydd Prydain, tan fis Tachwedd 2025.

Mae Ein Rhyddid: Ddoe a Heddiw yn rhaglen o brosiectau artistig dan arweiniad y gymuned sy’n digwydd mewn 60 o ganolfannau celfyddydau a llyfrgelloedd ledled gwledydd Prydain i nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Rydyn ni’n falch iawn o gymryd rhan yn y rhaglen uchelgeisiol yma, ac o gael rhannu bod Chapter a Deaf Gwdihŵ wedi comisiynu tri artist byddar sy’n byw yng Nghymru, Maggie Hampton, Emily Rose Corby ac Alex Miller, i greu gwaith newydd mewn ymateb i'r thema.

Bydd yr artistiaid yn cyflwyno’u hymchwil a’u gwaith yng Ngŵyl Deaf Gathering Cymru yn Chapter mewn sgwrs ddydd Sul 23 Tachwedd, 2-3pm. Bydd darlleniad barddoniaeth gan Maggie Hampton i ddilyn.

Ein Rhyddid: Ddoe a Heddiw

Caiff rhaglen Ein Rhyddid: Ddoe a Heddiw ei chyflwyno gan Future Arts Centres mewn partneriaeth â Libraries Connected ac Open Eye Gallery, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae pob un o'r 60 o ganolfannau celfyddydau a llyfrgelloedd sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn gweithio gyda'u cymunedau lleol i ddatblygu digwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau sydd ar agor i'r cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan: ourfreedom.org.uk

Cyflwynir Deaf Gathering Cymru gan Chapter a Deaf Gwdihw a’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o ddweud mai ein Prif Noddwr eleni yw Deaf Health Wales.