And the winner is…

  • Published:

We’re thrilled to announce that the Chapter Queer Short Film Prize 2026 has been awarded to Alia Ramna. Please Mistress will be put forward as our nomination for the Iris Prize Best British programme, and the winner will go on to screen on Channel 4.

Enillydd:

Please Mistress 

Yn gynrychiolaeth daer o’r profiad traws-ffem, dyma ffilm sy’n mynd y tu hwnt i’r naratifau confensiynol i bobl draws mewn ffilm. Yn ffilm llawn risgiau creadigol, mae’n teimlo’n ddilys, yn berthnasol ac yn bersonol gan ymdrin â realiti economaidd a chymdeithasol yr hyn mae’n gymryd i fenywod traws oroesi mewn byd gelyniaethus. Mae Please Mistress yn gwneud i’r gwyliwr dalu sylw i’r ffyrdd mae bod yn anhysbys ar-lein yn annog pobl i ryngweithio gyda’r gymuned Gwiar, a sut gall pobl Gwiar ei ddefnyddio er gwell neu er gwaeth. Gyda’r defnydd o ystafell wely fel lleoliad, gwelwn sut gall cymdeithas ymwthio i heddwch mewnol a man gorffwys rhywun. 

Canmoliaeth arbennig:

Over the Rainbow 

Golwg deimladwy a hiraethus ar ffilm glasurol a gafodd ei mabwysiadu gan ddiwylliant Cwiar genedlaethau yn ôl. Wedi’i gosod yng Nghaerffili gan wneud y gorau o’r lleoliad, mae Cymru wedi’i hintegreiddio’n llawn i Over the Rainbow. Mae’r darlun trosiadol o fasgio, hunan-guddio a chymathu yn teimlo’n ddilys i’r profiad Cwiar. Gyda seinwedd atmosfferig, gwaith cynhyrchu gwych a chymeriadau cymhellol, mae hon yn ffilm sy’n bleserus i’w gwylio. 

Island of Strangers 

Darlun twymgalon o Gymru fel enghraifft o genedl noddfa, gan chwalu rhagdybiaethau arferol am agweddau pobl hŷn tuag at amrywiaeth ac amlddiwylliannaeth. Mae Island of Strangers yn ffilm ddogfen sydd wedi’i gwireddu’n dda, gyda chast hudolus o gymeriadau sy’n dod ynghyd i daclo’r unigrwydd a ddaw gydag oedran, gan ddangos bod y genhedlaeth hŷn yn barod i dderbyn a dathlu gwahaniaeth. 

A huge congratulations to all the filmmakers who submitted!