Chapter i dderbyn cyllid tair blynedd gan Gronfa Prosiectau Cynulleidfa Loteri Genedlaethol y BFI

  • Published:

Mae Chapter yn falch o gyhoeddi ei bod wedi derbyn grant tair blynedd sylweddol gan Gronfa Prosiectau Cynulleidfa y BFI, sy’n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol, i gefnogi’r gwaith o arddangos a dosbarthu ffilmiau uchel­geisiol, sy’n wynebu cynul­leid­faoedd, a phrosiectau ymdrochol ar raddfa genedlaethol”. 

Bydd y cyllid hwn yn cefnogi cyfnod newydd o weithgarwch datblygu cynulleidfaoedd, gan ddyfnhau perthnasoedd â chymunedau sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf rhag cael mynediad at ffilmiau, gan gynnwys pobl ifanc o’r Mwyafrif Byd-eang, cynulleidfaoedd B/byddar, pobl LHDTCRhA+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. 

Mae gwaith Chapter yn adeiladu ar hanes llwyddiannus sy'n cynnwys prosiectau cymunedol oddi ar y safle ym Mhafiliwn Grange a Hwb Caerau Trelái, gwyliau ffilm gyda phartneriaid, gan gynnwys Watch Africa, Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu, Gŵyl Ffilmiau Safar a Gŵyl Animeiddio Caerdydd, cydweithrediad ag Archif Sinema PanAffricanaidd June Givanni, a gwobr flaenorol gan Gronfa Prosiectau Cynulleidfa y BFI ar gyfer 2023-26. 

“Film contains such pleasures as an art form, it’s exciting to know that we can continue our work with audiences who’ve been excluded and invite them to shape our programme with us. The world of cinema should be for everyone and it’s thrilling to know we’re laying the foundations for film culture to thrive in Cardiff.” 

—Claire Vaughan, Rheolwr Rhaglen y Sinema yn Chapter

Bydd Reel Futures, casgleb ffilm Mwyafrif Byd-eang Chapter, yn cael ei chefnogi trwy lwybr tair blynedd i ddatblygu cyfranogwyr lleol ifanc yn arweinwyr diwylliannol. Dros gyfnod y rhaglen, bydd cyn-aelod yn ymgymryd â swydd ran-amser Cynorthwyydd Ymgysylltu â'r Gynulleidfa cyn i'r grŵp gyflwyno gŵyl sinema Mwyafrif Byd-eang o ffilmiau a ddewiswyd ac a gyd-guradwyd ganddynt. 

“This work starts with belonging. Reel Futures gives young people the space to build confidence, take ownership and shape culture in ways that reflect their lived experience. Support like this from the BFI helps make that possible.” 

—Kofi Acheampong, Pennaeth Ymgysylltu Chapter

Ochr yn ochr â hyn, bydd y Clwb Ffilmiau Byddar yn parhau i ddatblygu fel rhaglen sgrinio fisol gyda thrafodaeth yn Iaith Arwyddion Prydain. Gan adeiladu ar dair blynedd o waith dan arweiniad y gynulleidfa, bydd y cam nesaf yn ehangu i gynnwys mwy o ffilmiau gan wneuthurwyr ffilmiau B/byddar ac yn annog mynd ati i groesi rhwng cynulleidfaoedd B/byddar ac sy’n clywed — gan symud tuag at brofiad sinema cwbl integredig.

Mae'r cyllid yn cynrychioli ymrwymiad parhaus gan Chapter i weithio gyda chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli fwyaf yng Nghaerdydd i gyd-greu ei rhaglen sinema. 

  • Reel Futures: O ddysgu i arweinyddiaeth

    Mae Kofi Acheampong yn rhannu pam mae’r rhaglen yma’n fwy nag am ffilm: mae’n ymwneud â meithrin ymddiriedaeth, hyder a llwybrau sy’n galluogi pobl ifanc o’r Mwyafrif Byd-eang i siapio diwylliant ar eu telerau nhw.