Curadu gydag Archifau Sinema PanAffricanaidd – Rhaglen Hyfforddeiaeth
- Published:
Croeso i Gymrodoriaeth JGPACA, Curadu gydag Archifau Sinema PanAffricanaidd.
Dyma gyfle hyfforddeiaeth gyda bwrsariaeth wyth wythnos ym maes Curadu Ffilm ac Archifau Pan-Affricanaidd ar gyfer tri hyfforddai archif rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2026.
Ar y cyd â phrosiect cenedlaethol Archifau Sinema PanAffricanaidd June Givanni (JGPACA), sef Building Community Audiences for PanAfrican Cinema in the Regions, mae’r rhaglen hyfforddiant gydweithredol yma, a ddatblygwyd gan JGPACA a Chapter, ac a arweinir gan Yvonne Connikie, yn cynnig cyfle unigryw i gyfranogwyr archwilio curadu ffilm drwy lens archif arwyddocaol fyd-eang sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant Du.
Mae hwn yn gyfle i ddysgu am sinema PanAffricanaidd, sut i guradu digwyddiad ffilm, a sut i weithio gydag archifau.
Wedi’i chreu gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth Sgrin y BFI, sy’n dyfarnu cyllid y Loteri Genedlaethol.
Amcanion y Cwrs
Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle:
- i ddwysáu eu dealltwriaeth o waith curadu ffilmiau drwy hyfforddiant strwythuredig ac archwilio archifau.
- i ymgysylltu’n feirniadol â deunyddiau o JGPACA, gan ystyried cyfrifoldeb curadurol, cof pobl ar wasgar, a gwleidyddiaeth cynrychiolaeth.
- i ymateb i’r hyn a ddysgir o ffilmiau, gwrthrychau, themâu a syniadau ar y cwrs a’r archif, drwy greu allbwn myfyriol (ysgrifennu, fideo, ac ati) a churadu digwyddiad i ddangos ffilmiau.
- i ymuno â sgwrs guradurol ar-lein wedi’i harwain gan gyfoedion, gan osod eu myfyrdodau mewn rhwydwaith ehangach o ddeialog archifol a dysgu ar y cyd gyda Phrif Guraduron JGPACA.
- i ystyried sut gellid ehangu ar eu hymgysylltiad â deunyddiau a hanesion sinema PanAffricanaidd, fel rhan o berthynas hirdymor gyda JGPACA, Chapter a/neu arfer curadurol.
Sefydlwyd Archifau Sinema PanAffricanaidd June Givanni (JGPACA) yn 2013 yn swyddogol, ac mae’n archif fyw sy’n cadw ac yn gwerthfawrogi hanes sinema Ddu yn fyd-eang. Wrth eu gwraidd mae diddordeb mewn sinema Pan Affricanaidd a’i pherthynas â sinema a diwylliant Du Prydain. Hyd yma, mae gan y JGPACA dros 10,000 o eitemau, sy’n cysylltu ffilm Affricanaidd gyda diwylliannau ffilm cymunedau ar wasgar yn yr Amerig, y Caribî, ac Ewrop. Mae casgliad yr archif, sy’n cwmpasu hanes cyfoethog celfyddydau Du Prydeinig gyda’u gwreiddiau mewn cymunedau Affricanaidd ar wasgar, yn dangos safbwyntiau rhyngwladol a byd-eang.
Mae’r archif yn darparu sylfaen wybodaeth hanfodol i ffilmiau a gwneuthurwyr ffilm, gan gysylltu’r oes cyn-ddigidol â chyflawniadau cyfoes. Mae JGPACA yn gasgliad unigryw o eitemau, gwrthrychau a chydrannau; ffilmiau a rhaglenni a recordiwyd ar fideo a DVD, ffotograffau, cyfweliadau sain, posteri, sgriptiau, dogfennau papur, llyfrau, deunyddiau cyhoeddusrwydd gwyliau a ffilmiau, a memorabilia. Mae ei ffocws PanAffricanaidd yn golygu ei fod yn adnodd allweddol i’r rhai sydd â diddordeb mewn hanesion cymunedau ar wasgar.
Mae JGPACA yn cydnabod y potensial i wasanaethu cymuned fwy ac ehangach o ddefnyddwyr, gan ehangu tu hwnt i’w lleoliad canolog yn Llundain, gan gysylltu rhwydweithiau PanAffricanaidd yn rhanbarthol a gydag Affrica, y Caribî, yr Amerig ac Ewrop. Yn bwysig, mae JGPACA yn ceisio galluogi cynulleidfaoedd a chyfranogwyr (cymunedau) yn y prosiect i ddatblygu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol, gan gydnabod cymhlethdodau hunaniaethau Du. Mae JGPACA wedi cael cyllid gan gronfa Treftadaeth Sgrin y BRI i ehangu ei chefnogaeth a’i gwybodaeth â rhannau eraill o wledydd Prydain.
Tîm Staff JGPACA:
Cyfarwyddwyr JGPACA – Imruh Bakari, June Givanni ac Emma Sandon
Prif Guraduron – Imruh Bakari a June Givanni
Curadur Prosiect – Damilola Lemomu
Hwyluswyr Prosiect – Benjin Pollock a Phoebe Beckett Chingono
Gwneuthurwraig ffilm, rhaglenwraig a churadur yw Yvonne Connikie, sy’n arbenigo mewn ffilmiau annibynnol Du. Mae ganddi yrfa helaeth yn hyrwyddo ac yn archifo ffilmiau Du Prydeinig.
Mae uchafbwyntiau allweddol ei gyrfa yn cynnwys:
Mae Connikie yn wneuthurwraig ffilm ac yn guradur ar gyfer Gŵyl Ffilmiau Caribïaidd Windrush. Hi sefydlodd Ŵyl Ffilmiau Du Cymru, a fu’n rhedeg rhwng 2000 a 2008. Mae hi’n aelod sefydlu ac yn gyn-Gadeirydd i’r New Black Film Collective, a bu’n gwasanaethu fel Curadur Cynorthwyol a Chydlynydd Addysg ar gyfer y casgliad archif ‘Big City Stories’. Connikie oedd awdur y llyfr i blant ‘Fashions of a Decade: The 1960s’ a ffilmiau byrion gan gynnwys ‘A time for New Dreams’ gydag Artes Mundi. Ar hyn o bryd mae hi’n guradur ac yn rheolwr ar gyfer y ffotograffydd archifol Charlie Phillips OBE, ac yn aelod o fwrdd TEAM Collective Cymru. Mae hi hefyd yn ymgeisydd MPhil ym Mhrifysgol De Cymru.
Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter, sydd â’i gwreiddiau yng nghanol Caerdydd.
Cafodd ei sefydlu gan artistiaid yn 1971 i ddathlu arbrofi a meddwl radical, ac mae wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers hynny.
Mae ei rhaglen ddeinamig o sawl ffurf ar gelfyddyd yn ffurfio clwstwr o syniadau ac arferion radical ac arbrofol. Ar draws celfyddydau gweledol, ffilm, perfformiadau a phrosiectau amlddisgyblaethol, mae’n ceisio archwilio cwestiynau mwyaf brys ein hoes.
Mae Chapter yn gwerthfawrogi dychymyg a chymryd risgiau, gan fuddsoddi mewn artistiaid a chymunedau fel adeiladwyr byd. Mae ei hymagwedd yn gydweithredol ac yn ymroddedig i’w chymuned – artistiaid, cynulleidfaoedd, cymdogion, staff, a gweithwyr diwylliannol – ar garreg ei drws, yng Nghymru a thu hwnt.
Dros wyth wythnos, gyda chefnogaeth tîm Chapter, y prif guradur/arweinydd rhaglen Yvonne Connikie, gwesteion o’r diwydiant a gweithwyr archif proffesiynol, byddwch chi’n dysgu am sinema PanAffricanaidd, curadu ffilmiau, gweithio gydag archifau, a sut i gynnal eich digwyddiad ffilm eich hun. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau, gweithdai a gweithgareddau, ac amser i fyfyrio. Bydd yr hyfforddeion yn creu cofnod myfyriol o’u dysgu drwy ddyddiadur, fideo, neu fath arall o gyfrwng creadigol.
Bydd yr hyfforddeion hefyd yn cael mewnwelediad i:
- Hanes a diben Archifau Sinema PanAffricanaidd June Givanni
- Sgiliau archifo ymarferol a churadurol
- Y gwaith o gynllunio a chyflwyno digwyddiad archif untro cyhoeddus
- Pwysigrwydd diwylliannol sinema PanAffricanaidd o fewn cyd-destun gwledydd Prydain ac yn fyd-eang
Yn ogystal â’r sesiynau gweithdy, bydd yr hyfforddeion yn cael cyfleoedd:
- i wylio ac ymchwilio i sinema PanAffricanaidd mewn maes sydd wedi’i deilwra i’w diddordebau nhw
- i fynd i ddigwyddiadau lleol i gynyddu eu dysgu
- i ddarllen llyfrau ac adnoddau perthnasol
- i greu eu digwyddiad ffilm eu hunain yn seiliedig ar yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
Bydd pob hyfforddai yn cael bwrsariaeth o £784, gan gynnwys treth. Nid yw costau teithio na threuliau eraill wedi’u cynnwys, ond bydd yr hyfforddeion yn cael adnoddau dysgu. Gall yr hyfforddeion wneud cais i Gronfa Sgiliau Unigol y BFI ar gyfer costau teithio a threuliau eraill.
Mae’r fwrsariaeth hon yn seiliedig ar gyfradd o £14 yr awr, am 56 awr dros yr wyth wythnos. Cyfanswm eich oriau dysgu yn y sesiynau wythnosol fydd 47.5 awr, felly mae gennych 8.5 awr ar ôl i’w cyfrannu at ddangosiadau ffilm wythnosol dewisol ac i fynd i ddigwyddiadau lleol.
Bydd hanner y fwrsariaeth yn cael ei dalu yn Wythnos 1 yr hyfforddiant, unwaith y byddwch chi’n cyflwyno anfoneb; bydd yr ail hanner yn cael ei dalu ar ôl i chi gyflwyno anfoneb yn Wythnos 8. Chi sy’n gyfrifol am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threth. Os oes angen cymorth arnoch i greu anfoneb, gallwn ni helpu.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu i ddeall Sinema PanAffricanaidd ac arwyddocâd byd-eang sinema Du Prydeinig fel sinema cymuned ar wasgar. Bydd yn eich helpu i ddeall ei pherthnasedd â hanesion trawswladol gyda chymunedau Affricanaidd ar wasgar, ac i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes rhaglennu ffilm a gweithio gydag archifau.
Bydd yn ddefnyddiol i chi os ydych chi’n ystyried mynd i yrfa ym maes rhaglennu ffilm, gweithio gydag archifau, neu gynnal eich digwyddiadau diwylliannol eich hun.
Mae'r hyfforddiant ar gyfer unigolion sy’n byw yng Nghaerdydd, sydd o dras Affricanaidd neu Garibïaidd ac sydd â chwilfrydedd a diddordeb mewn dysgu am Sinema PanAffricanaidd. Nid oes angen i chi fod wedi cael profiad gwaith ym maes ffilm neu archifau, nac unrhyw brofiad ym maes ffilm. Yr oll sydd ei angen yw bod yn 18 oed neu’n hŷn, yn chwilfrydig, ac yn frwdfrydig i ddysgu.
Nod yr hyfforddeiaeth guradurol yma yw cynyddu cyfleoedd yn y sector ffilm ac archifau i bobl yng Nghymru. Mae JGPACA yn cydnabod bod tangynrychiolaeth sylweddol o bobl Ddu yn y sector ffilm ac archif, er gwaetha’r cynnydd graddol yn y diddordeb mewn cynnwys ffilm Du.
Bydd yr hyfforddiant yn Chapter.
Y cyfeiriad yw: Chapter, Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE, Cymru.
Wythnos 1 – dydd Mercher 11 Chwefror
Wythnos 2 – dydd Mercher 18 Chwefror
Wythnos 3 – dydd Mercher 25 Chwefror
Wythnos 4 – dydd Mercher 4 Mawrth
Wythnos 5 – dydd Mercher 11 Mawrth
Wythnos 6 – dydd Mercher 18 Mawrth
Wythnos 7 – dydd Mercher 25 Mawrth
Wythnos 8 – dydd Mercher 1 Ebrill
Oes rhaid i fi fynd i bob un?
Dim ond os gallwch chi fod yn o leiaf 7 o’r 8 sesiwn wythnosol y dylech wneud cais. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’r profiad dysgu. Heblaw am y sesiynau wythnosol, bydd dangosiadau ymchwil dewisol y gallwch fynd iddynt hefyd, yn ogystal â chyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau diwylliannol eraill perthnasol yn lleol.
I wneud cais am y cyfle yma, cliciwch ar y ddolen isod ac ateb y cwestiynau.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cais erbyn 1 Rhagfyr 2025, 5pm.
Unwaith bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio, byddwn ni’n creu rhestr fer o’r ymgeiswyr ac yn gwahodd detholiad o unigolion am sgwrs anffurfiol ar-lein. Bydd hyn yn ystod yr wythnos yn dechrau 8 Rhagfyr 2025 gyda Claire Vaughan, Rheolwr Rhaglen Sinema yn Chapter a Yvonne Connikie.
Yna, byddwn ni’n dewis tri hyfforddai ac yn rhoi gwybod iddyn nhw, a’r ymgeiswyr aflwyddiannus, erbyn 12 Rhagfyr 2025.
Bydd y tri hyfforddai’n dechrau ar Wythnos 1: (Dydd Mercher 11 Chwefror 2026).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch yn uniongyrchol ag Yvonne Connikie drwy [email protected].