Dyma Ffilmiau Cymru’ Cymru’n Dathlu 130 Mlynedd o Sinema

  • Published:

Mae sinemâu Cymru’n dathlu pen-blwydd arwyddocaol yn ystod y gwanwyn, gan nodi 130 mlynedd ers y dangosiadau ffilm cyntaf a wyddom amdanynt yng Nghaerdydd, fis Ebrill 1896.

Mae sgriniau mawr Cymru wedi bod yn gartref i ffilmiau arloesol Cymreig William Haggar ac Arthur Cheetham yn y 1900au cynnar ac ar hyd y blynyddoedd, hyd at ffilmiau newydd 2026, megis Effi o Blaenau a Madfabulous

I nodi’r achlysur, mae, Canolfan Ffilm Cymru yn cynnal gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys rhannu canlyniadau holiadur y diwydiant cyfan sy’n cyflwyno dyheadau’r diwydiannau sgrin yng Nghymru ar gyfer dyfodol ffilm yng Nghymru, a phodlediad Gwnaethpwyd yng Nghymru ar thema debyg. Bydd hefyd cyfres o flogiau ‘trysorau sinema’ sy’n cynnig cipolwg i gynulleidfaoedd ar ganolfannau ffilm hanesyddol a chanolfannau newydd eu hadfer, yn ogystal â rhestr o rai o’r ffilmiau mwyaf allweddol o Gymru dros y 13 degawd diwethaf, a fydd ar gael i’w dangos mewn sinemâu ar gyfer tymor ‘Dyma Ffilmiau Cymru’. 

“Mae sinema wedi esblygu dros y 130 mlynedd diwethaf, gan adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas, ffyrdd o adrodd straeon a chofleidio technolegau digidol. Mae’n parhau’n hafan barhaus o ddihangfa, adloniant a chysylltiad. Mae nifer o ‘drysorau sinema’ i gynulleidfaoedd eu darganfod yng Nghymru, o’r Savoy yn Nhrefynwy i Neuadd Brynaman a mwy. Rydyn ni am wneud 2026 yn flwyddyn y sinema, er mwyn diolch i sinemâu am eu cyfraniad gwerthfawr i’n cymunedau, tra hefyd yn cydnabod rôl ffilmiau Cymreig a’n gobeithion ar gyfer straeon ar sgrin yng Nghymru. Yn ein holiadur diweddar i’r diwydiant, fe ddwedodd 97% o wneuthurwyr ffilmiau Cymru wrthym mor bwysig oedd dangos eu ffilmiau ar sgrin fawr, felly ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd sinema i gynhyrchu ac i gynulleidfaoedd.” 

—Mae Hana Lewis, Pennaeth Canolfan Ffilm Cymru, yn esbonio arwyddocâd y pen-blwydd hwn

Felly, ym mhle dechreuodd bopeth? Fe ddangosodd yr Americanwr Birt Acres ffilmiau’n breifat i Gymdeithas Ffotograffiaeth Caerdydd cyn mynd yn ei flaen i arddangos ei ffilmiau i gynulleidfaoedd ym Mharc Cathays, gan ragflaenu’r Brodyr Lumiere enwog, a ddaeth a’u ‘Cinematographe’ enwog i Neuadd Gerdd Ymerodraeth Caerdydd ym mis Mai 1896. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, fe aeth Acres ati i greu ei ffilm gyntaf yng Nghymru - Ymweliad Brenhinol Tywysog Cymru (yn ddiweddarach Edward VII) i Gaerdydd. 

Mae ‘Dyma Ffilmiau Cymru’ gan Ganolfan Ffilm Cymru yn becyn o ffilmiau Cymreig sy’n rhychwantu 130 o flynyddoedd ac yn cynnwys 70 o ffilmiau, gyda’r cynharaf yn ymestyn yn ôl i 1898. Mae’r pecyn yn cynnwys un o’r ffilmiau sinematig mwyaf rhyfeddol o’r cyfnod, o’r enw “Conway Castle – Panoramic View of Conway on the L & N.W Railway”, drwy garedigrwydd Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn adnabyddus fel enghraifft o is-genre o ffilmiau o’r enw ‘phantom train ride’, fe ffilmiwyd y locomotif o dryc wrth iddo deithio drwy dwnnel ac allan i olygfa ysblennydd o’r Castell. Ymhlith y ffilmiau eraill mae’r ffilm gyntaf gyda sain yn y Gymraeg - ‘Y Chwarelwr’, a ffefrynnau megis The Proud Valley, Rhosyn a Rhith (Coming up Roses), Submarine, Gwledd a llawer mwy.  

Fe ddatgelodd holiadur y diwydiant Canolfan Ffilm Cymru hefyd bod 87% o’r rheiny a atebodd yn teimlo nad oedd digon o ffilmiau Cymraeg eu hiaith yn cael eu creu a bod diffyg ffilmiau sy’n ymwneud â bywyd yng Nghymru. Felly mae’n bwysicach nag erioed edrych yn ôl ar rai o’r ffilmiau mwyaf dylanwadol a grëwyd yng Nghymru ar draws y blynyddoedd, gan hefyd ddiogelu diwylliant sgrin Cymru.  

“Pen-blwydd Hapus yn 130 i’r sinema yng Nghymru - ac am flwyddyn gyffrous! Rydyn ni hefyd yn dathlu 125 mlynedd o ddangos ffilmiau yn y Magic Lantern - a elwir yn ‘Assembly Rooms’ yn wreiddiol - yn Nhywyn, Gwynedd. Fe lansiwyd ein rhaglen 125 ffilm ar 8 Mawrth, gyda sgwrs am hanes y ganolfan gan Chris Richards o’n tîm. Fel nifer o sinemâu gwych yng Nghymru, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at dymor ‘Dyma Ffilmiau Cymru’ a rhannu rhai o ffilmiau gorau’r archif gyda’n cynulleidfa. Mae mor bwysig i’n cymunedau weld eu diwylliant a’u treftadaeth ar y sgrin fawr.”

—Ychwanega Annie Grundy o’r Magic Lantern, un o hoff sinemâu Cymru a fu ar restr Time Out o 100 sinemâu gorau’r byd yn ddiweddar, yn ogystal ag ennill gwobr Sinema’r Flwyddyn 2025 BIFA

Gall cynulleidfaoedd nawr wylio hysbyslun tymor ‘Dyma Ffilmiau Cymru’, yn ogystal â fideos ‘trysorau sinema’ a darllen blogiau gan arddangoswyr ffilmiau a’u gobeithion ar gyfer dyfodol ffilm yng Nghymru. Gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau cyflwyniad cyflym ar Hanes Sinema Cymru drwy’r adnodd byr yma a grëwyd ar gyfer y tymor, darllen canlyniadau’r holiadur Dyfodol Ffilm Cymru (y diwydiant), a dilyn Canolfan Ffilm Cymru i gael newyddion ynglŷn â dangosiadau sydd ar ddod.