Ffilmau yn Chapter 10 – 16 Ebrill
- Published:
O ddatgysylltiad tawel i gysylltiad annisgwyl, mae ffilmiau’r wythnos yma’n archwilio’r ffyrdd rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd.
Mae The Stranger yn dilyn dyn di-hid sy’n cael ei ysgwyd gan un profiad, tra bod Father Mother Sister Brother yn cynnig golwg ffraeth ar ddeinameg teulu ar draws tair pennod wahanol.
Fan arall, cariad a hunan-ddarganfod sy’n mynd â’n sylw. Mae The Drama yn herio perthynas sydd ar fin priodi, mae Amélie yn gweld yr hud mewn mân-garedigrwydd, ac mae DJ Ahmet yn dangos pobl ifanc sy’n creu lle i’w hunain drwy gerddoriaeth a chyfeillgarwch.