Ffilmau yn Chapter 17 – 23 Ebrill

  • Published:

Mae ffilmiau’r wythnos yma’n dilyn pobl yn rhoi’r darnau at ei gilydd ac yn datrys pwy ydyn nhw.

O ailddyfeisad tawel yn Rebuilding, i’r perthyn annisgwyl sydd yn Miroirs No. 3, dyma straeon bywydau sy’n cael eu hail-siapio ar ôl rhwygo.

Fan arall, mae pobl yn cael eu tynnu nôl i’r gorffennol: mae Colours of Time yn dilyn hanesion teuluol, mae Two Prosecutors yn datgelu llygredigaeth wleidyddol, ac mae Solaris yn crwydro trwy atgofion, euogrwydd a’r anhysbys.

Mae California Schemin' yn cynnig dychan miniog, ac mae NT Encore: All My Sons yn cloi’r wythnos gyda phortread tanbaid gan Arthur Miller o deulu sy’n cael eu gorfodi i wynebu gwir gost rhyfel.