Ffilmau yn Chapter 24 – 30 Ebrill
- Published:
Mae ffilmiau’r wythnos yma yn llithro rhwng dau fyd – y gorffennol sy’n tynnu a phosibilrwydd rhywbeth newydd.
Yn The Blue Trail, mae menyw yn canfod rhyddid mewn cyfeillgarwch annisgwyl, tra bod The Rose of Nevada yn dilyn criw pysgota o Gernyw sy’n sownd mewn eiliad sy’n gwrthod symud ymlaen.
Mae Undertone yn ein denu i ddirgelwch dwys o sain, lle mae realiti’n dechrau pylu, ac mae NT Live: The Playboy of the Western World yn dod â chwedl fyw am ieuenctid a hunanddarganfyddiad i’r llwyfan.
A dros y penwythnos, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn dychwelyd gyda phedwar diwrnod llawn dop o ffilmiau byrion, ffilmiau nodwedd, a phopeth rhwng y ddau!