Ffilmau yn Chapter 27 Chwefror — 5 Mawrth

  • Published:

Yr wythnos yma, mae obsesiwn, cred a thensiynau cudd yn mudferwi dan yr wyneb.

Mae Sirât yn curo â churiadau sîn rêf Gogledd Affrica wrth chwilio am ferch goll, mae Wuthering Heights yn dychwelyd i’r gweundiroedd gyda’i hiraeth gwyllt a digyfaddawd, ac mae The Gravedigger’s Wife yn cynnig portread tyner o gariad wedi’i siapio gan amgylchiadau.

Bydd cred a phenderfyniad yn datblygu mewn ffyrdd gwahanol – o ddeffroad ysbrydol yn The Testament of Ann Lee, i berygl gwleidyddol yn The Secret Agent, a chwestiynu personol yn What Should We Have Done?, sy’n cael ei dangos fel rhan o Raglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan 2026.

Fel bob amser, mae Chapter Moviemaker yn cyflwyno doniau creu ffilm a safbwyntiau newydd i’r sgrin.

Rydyn ni hefyd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda dwy ffilm o Gymru: Rabbit Trap, ffilm gyffro wledig a hypnotig, a Gwledd, ffilm arswyd gyffro flasus lle mae digwyddiad teuluol yn mynd o chwith.