Ffilmau yn Chapter 6 – 12 Mawrth
- Published:
O ail-greadau beiddgar i straeon gwir rhyfeddol, mae ffilmiau’r wythnos yma’n archwilio awydd ac ymroddiad yn eu holl ffurfiau.
Mae The Bride! yn ail-greu priodferch Frankenstein yn Chicago’r 1930au, tra bod The Testament of Ann Lee yn dilyn menyw y bu i’w ffydd ecstatig ail-siapio cymuned. Mae Sound of Falling yn dilyn pedair cenhedlaeth o fenywod mewn ffermdy yn yr Almaen, ac mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn dychwelyd gyda’r math o sinema hyfryd o afreolus sy’n well ei phrofi gyda chriw.
Mae Rhaglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan yn cynnig straeon am densiwn a hiraeth hefyd: mae The Final Piece yn camu i fyd dwys shogi, ac mae Conflagration yn dilyn chwant aflonydd i gysgodion teml sanctaidd.
Dros amser, lle a genre, mae’r ffilmiau yma’n symud rhwng yr agos-atoch a’r epig – weithiau’n dyner, weithiau’n anesmwyth, ond bob amser yn afaelgar.