Ffilmiau Chapter 16 – 22 Awst
Wythnos arall, rhaglen sinema lawn dop arall, yma yn Chapter.
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi’i lleoli yma yn Chapter, a bydd yn cynnal dangosiad arbennig nos Sul 18 Gorffennaf o ffilm animeiddiedig newydd Don Hertzfeldt, ‘ME’, sy’n daith gerddorol 22 munud am drawma ac enciliad dynoliaeth i’w hunan. Bydd hefyd yn dangos ffilm glodwiw Hertzfeldt ‘It’s Such A Beautiful Day’, a fydd yn dychwelyd i’r sinema am y tro cyntaf ers 2012.
Nos Fercher 21 Awst am 6pm byddwn yn croesawu Kneecap a sesiwn holi ac ateb. Mae’r ffilm wedi’i gosod ym Melffast, pan mae’r rapwyr Gwyddeleg Naoise a Liam Óg yn uno â JJ, athro ysgol sy’n creu curiadau yn ei garej. Mae JJ yn gwisgo balaclafa i amddiffyn ei swydd, ac maen nhw’n galw’u hunain yn ‘Kneecap’. Mae eu rap gwrthryfelgar, sy’n adlewyrchu bywyd ifanc yn y cyfnod wedi Cytundeb Belffast, yn corddi’r dyfroedd ac yn peryglu eu breuddwydion. Mae’r chwedl ffyrnig a doniol yma’n fyw â churiadau hip hop.
Archwiliwch ffilmiau’r wythnos isod.
- Published: