Ffilmiau Chapter 22 – 28 Awst
- Published:
Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu’r newyddion bod ein Stiwdio, a gafodd ei hadnewyddu'n ddiweddar, yn barod ar gyfer ein dangosiadau sinema!
Gwyliwch bob un o 8 pennod y gyfres ddrama Gymreig arloesol a hudolus The Owl Service mewn marathon epig ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Awst.
Rydyn ni’n dangos y ffilm gyntaf drawiadol iawn, Sorry, Baby, yn ein sinemâu, gan edrych ar sut mae trawma yn cael ei brosesu'n breifat ac yn gyhoeddus. Yn ogystal i Sgrechiwch fel y Mynnwch ar ddydd Gwener 22 Awst, 12.55pm.
Smurfs yw ein ffilm deuluol yr wythnos yma! Pan gaiff Papa Smurf ei herwgipio, mae’r Smurfs yn mynd ar daith i’r byd go iawn i’w achub.