Ffilmiau Chapter 29 Awst – 4 Medi
- Published:
Gan wneuthurwyr Prima Facie, mae’n bleser gennym groesawu NT Live yn ôl ar gyfer eu cynhyrchiad diweddaraf, Inter Alia. Pan fydd digwyddiad yn bygwth amharu’n llwyr ar fywyd Barnwr Llys y Goron, Jessica, a fydd hi’n gallu cadw’i theulu i fynd?
Cyfle i wylio The Thursday Murder Club cyn iddi gael ei rhyddhau ar Netflix! Wedi'i haddasu o nofel ryngwladol boblogaidd Richard Osman, mae'r ffilm yn dilyn pedwar ditectif amatur sy'n canfod eu hunain gyda dirgelwch go iawn ar stepen eu drws.
Dewch i weld beth sydd mor arbennig am fywyd dyn cyffredin yn The Life of Chuck, stori gadarnhaol sy’n plygu genres, yn seiliedig ar nofela fer anghonfensiynol Stephen King.