
Ffilmiau Chapter 31 Ionawr – 6 Chwefror
- Published:
Mae’r gaeaf yn adeg berffaith i wisgo’n gynnes, bachu diod poeth, a swatio yn ein sinemâu!
Gwyliwch y stori dylwyth teg iasol a thywyll am ymgais menyw i ganfod tynerwch yn Copenhagen wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf yn The Girl with the Needle, neu darganfyddwch stori drasig ond prydferth y gantores opera eiconig, Maria Callas, yn Maria.
Fel rhan o’n penwythnos Gwrando Dwfn gyda’r artist preswyl Dan Johnson, rydyn ni’n dod â The Story of Pauline Oliveros yn ôl, sy’n cael ei dangos fel rhan o ŵyl Doc’n Roll. Mae’r ffilm ddogfen yn adrodd hanes y gyfansoddwraig chwedlonol.