Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Ffilmiau Chapter 9 – 15 Mai

  • Published:

Mae Nicolas Cage yn cyrraedd pen ei dennyn yn y ffilm gyffro glan môr, The Surfer.

Profwch olwg diddorol ar Efrog Newydd ar ddechrau’r saithdegau a bywydau Yoko Ono a John Lennon yn One to One: John and Yoko.

Mae menyw’n etifeddu ci ei ffrind, sy’n troi ei bywyd ben i waered yn The Friend.

Ymunwch â chast Cluedo yn y ffilm arbennig o wirion o 1985, Clue, sy’n seiliedig ar y gêm fwrdd boblogaidd Cluedo ac yn llawn perfformiadau eiconig gan y cast disglair.

Os ydych chi’n rhiant neu’n warchodwr newydd, dewch â’ch babi i’r dangosiad bore Gwener o Clue yn ein dangosiad Sgrechiwch fel y Mynnwch. Mae’n rhaid i fabanod fod o dan 12 mis, ac mae mynediad am ddim iddynt. Bydd yr amgylchedd yn ymlaciol a does dim angen pryderu dim am darfu ar eraill! Dim baban, dim mynediad.