Ffilmiau yn Chapter 10 – 16 Hydref
- Published:
Ymunwch ag awdur Trainspotting, Irvine Welsh, wrth iddo fynd ar daith nodedig i ganfod ystyr newydd yn ei waith, ei fywyd, a’i waddol, yn Reality Is Not Enough.
Mae Good Boy yn cynnig math gwahanol o gyffro, drwy lygaid Indy, ci sy’n synhwyro bod rhywbeth bach o’i le yn ei gartref newydd. Cyffrous, iasol, ac annisgwyl o dwymgalon.
Mae Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI yn parhau tan 18 Hydref. Dewch i brofi’r goreuon o ffilmiau a straeon ymdrochol newydd gyda ni, yr unig leoliad yng Nghymru sy’n dangos yr ŵyl.