Ffilmiau yn Chapter 12 – 18 Medi

  • Published:

Annwyl, hiraethus, torcalonnus, gobeithiol, a dybryd. Mae cais swyddogol Palesteina i Wobrau’r Academi 2025, From Ground Zero, yn dangos gwaith dwsinau o artistiaid newydd o Balesteina mewn galwad ddybryd am ddynoliaeth gan bobl dan warchae.

Drama Sbaeneg wresog a thawel bwerus yw Deaf, lle mae seramegydd Byddar a’i phartner sy’n clywed yn paratoi i groesawu eu plentyn cyntaf, gan gynnig golwg agos ar gariad, hunaniaeth a’r modd rydyn ni’n cysylltu ar draws wahanol fydoedd.

Mae Downton Abbey: The Grand Finale yn ffarwelio’n wresog â theulu’r Crawley, wrth i newid a sgandal ledaenu drwy eu bywydau yn y bennod olaf gain yma.

Cofiwch hefyd am Ŵyl Ddiwylliannol a Ffilmiau Wcráin ddydd Sadwrn 20 Medi – diwrnod o ddathlu lleisiau Wcráin drwy ffilm, celf, cerddoriaeth a bwyd.