Ffilmiau yn Chapter 13 – 19 Chwefror

  • Published:

Mae ffilmiau’r wythnos yma’n edrych ar gariad a hiraeth yn eu holl ffurfiau, o emosiynau ysgubol Wuthering Heights, i chwilfrydedd tyner Little Amélie.

Mae cysylltiadau teuluol ac etifeddiaeth greadigol yn cael sylw yn My Father’s Shadow ac Unsent Letter, ochr yn ochr ag It’s Never Over, Jeff Buckley, lle mae hanesion personol yn datblygu ar draws dinasoedd a cenedlaethau.

Mae cariad cwiar yn cael lle canolog gyda Blue Boy Trial, a fydd yn agor Rhaglen Ffilm Deithiol Sefydliad Japan 2026, ac mae Iris ar Symud yn cyflwyno ffilmiau byrion cwiar clodwiw o Ŵyl Ffilmiau LHDTC+ Gwobr Iris.