Ffilmiau yn Chapter 19 – 25 Medi

  • Published:

Peidiwch â methu Christy, drama dyner ddod-i-oed am fachgen yn ei arddegau yn dod o hyd i'w le yn y byd.

Reclaim the Frame yn cyflwyno Brides, ffilm gyntaf rymus sy'n archwilio cyfeillgarwch, rhyddid a pherthyn, ac yna sesiwn holi ac ateb gyda'r prif actor Safiyya Ingar a'r cyd-gynhyrchwyr Catryn Ramasut ac Alice Lusher.

Mae Ackroyd & Harvey: The Art of Activism yn bortread diddorol o ddau artist mae eu bywydau a'u gwaith yn cydblethu mewn galwad feiddgar i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd.

Hefyd, mae tocynnau Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI 2025 nawr ar werth! Dewch i brofi’r ffilmiau, y cyfresi a'r straeon ymdrochol gorau newydd gyda ni, yr unig leoliad yng Nghymru sy’n dangos yr ŵyl.