Ffilmiau yn Chapter 2 – 8 Ionawr
- Published:
Dewch i ddechrau’r flwyddyn newydd yn iawn gyda straeon am drawsnewidiadau dewr a breuddwydion beiddgar.
Mae Wicked: For Good yn disgleirio’n llawn hud ac ailddyfeisio, tra bod Marty Supreme yn dilyn ymgais ddewr un dyn i ganfod mawredd yn Efrog Newydd y pumdegau.
Mae Sentimental Value a Reclaim the Frame: Hamnet yn archwilio teulu, galar, a’r ffyrdd mae creadigrwydd yn ein helpu ni i iachau, tra bod Day gan Peter Hujar a Moviemaker Chapter yn dathlu artistiaid sy’n cyfleu bywyd yn ei holl fanylder byw.
Ac os am ychydig o helbul, mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn profi taw’r ffilmiau gorau yn aml iawn yw’r rhai rydych chi’n chwerthin drwyddyn nhw gyda’ch gilydd.