Ffilmiau yn Chapter 21 – 27 Tachwedd

  • Published:

Camwch i wythnos o ffilmiau lle mae realiti’n plygu ac emosiynau’n mynd yn ddwfn.

Mae realiti a ffuglen yn cydblethu yn The Ice Tower a The Thing with Feathers, wrth i’r hen a’r ifanc wynebu colled, hiraeth a dychymyg.

Dathlwch Deaf Gathering Cymru 2025 gyda gwledd o ffilmiau gan wneuthurwyr ffilm Byddar yn Chapter MovieMaker, ac ymunwch â dangosiad i’r teulu o The Good Dinosaur gyda dehongliad BSL.

Mae ein tymor Too Much – Melodrama on Film yn parhau i gyflwyno portreadau mawr ac emosiynol o Gymru ar y sgrin fawr gyda Proud Valley, Imitation of Life, Tiger Bay, Improvisation on a Beat Theme a Tiger Bay and The Rainbow Club.