Ffilmiau yn Chapter 27 – 31 Rhagfyr

  • Published:

Yr wythnos yma, bydd straeon am newid, ail gyfleoedd a'r cysylltiadau sy'n aros gyda ni i’w gweld ar ein sgriniau.

O gyfeillgarwch llawen Wicked: For Good i bortreadau myfyriol Bowie: The Final Act ac I Am Martin Parr, mae'r ffilmiau yma’n symud rhwng y gorffennol, y presennol a'r hyn sy'n dod nesaf.

Mae rhamant a chysylltiadau ar gael yn ein ffilmiau When Harry Met Sally, The Apartment a Merrily We Roll Along, tra bod Sentimental Value yn cynnig cipolwg meddylgar ar deulu ac atgofion.

I'r rhai sy’n chwilio am ychydig o densiwn, mae One Battle After Another, Sinners ac It Was Just an Accident gan Jafar Panahi, a enillodd Palme d'Or, yn cynnig drama o safon i chi.

P'un a ydych chi'n dianc rhag yr oerfel, yn asesu'r flwyddyn a fu neu'n edrych ymlaen i'r nesaf, mae rhywbeth ar y sgrin i'ch paratoi ar gyfer 2026.

___
Gweler ein horiau agor ar gyfer y cyfnod Nadoligaidd
.