Ffilmiau yn Chapter 28 Tachwedd — 4 Rhagfyr
- Published:
Wythnos yma ar y sgrin mae dirgelwch, emosiwn a dychymyg yn un.
Ditectifs, breuddwydwyr a chariadon fydd yn cael ein sylw: o ailddyfeisiad Benoit Blanc o’r genre dirgelwch sy’n llawn hwyl a direidi yn Wake Up Dead Man: A Knives Out Mystery, i ferch yn ei harddegau sy’n cael ei swyno gan actores yn The Ice Tower, a menyw sy’n cael ei llethu gan gariad a gwallgofrwydd yn Die My Love.
Profwch densiwn a chyffro yn Game, rhyfeddod a chwilfrydedd yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd: Penguin Highway, a rhamant cythryblus yn Punch-Drunk Love gan Paul Thomas Anderson ar 35mm.
Bydd Chapter MovieMaker yn cyflwyno Arddangosiad Ffilmiau Byrion Newydd 2025, gan ddangos ffilmiau beiddgar a dyfeisgar gan leisiau newydd, gyda chefnogaeth Academi Ffilm y BFI a mwy.