Ffilmiau yn Chapter 30 Ionawr — 5 Chwefror
- Published:
Chwilfrydedd sy’n ein tywys ni yr wythnos yma yn y sinema.
Mae Rabbit Trap yn ein denu i’r rhyfeddol gyda’i seinwedd hudol ac wedi’i gosod yng nghefn gwlad Cymru, mae No Other Choice yn canfod comedi tywyll mewn dyn sy’n colli’i swydd ond sy’n gwrthod newid ei ffordd o fyw, ac mae Is This Thing On? yn datgelu hiwmor a thynerwch drwy gomedi ar ôl diwedd perthynas.
Mewn mannau eraill, mae creadigrwydd ac anhrefn yn eistedd ochr yn ochr. Mae Nouvelle Vague yn rhuthro drwy Baris ac yn llythyr serch chwareus i’r sinema, tra bod BULK yn plygu realiti o gwmpas gwyddonydd coll, cyn sesiwn holi ac ateb gyda Ben Wheatley.
Mae Seeking Mavis Beacon, dangosiad am ddim fel rhan o finissage Sophie Mak-Schram a’i chydweithwyr: Dyfal droi y Garreg, yn archwilio ymddiriedaeth mewn byd technolegol sy’n newid.