Ffilmiau yn Chapter 5 – 11 Medi
- Published:
Peidiwch â cholli The Roses, dyma ail-gread o ffilm glasurol o’r wythdegau, The War of the Roses, yn gomedi dywyll gyflym a ffraeth â pherfformiadau disglair.
Yn Young Mothers, mae emosiwn amrwd yn ganolog i bortread dynol o fywyd fel mam newydd.
I weld rhywbeth sydd ychydig yn fwy rhyfeddol, mae The Fantastic Four: First Steps yn troi’r cloc ’nôl i edrych ar darddiad un o dimau mwyaf eiconig Marvel.
Hefyd, ydych chi wedi gweld rhaglen Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI 2025, sydd newydd ei chyhoeddi? Bydd tocynnau ar gael i’r cyhoedd o 16 Medi ymlaen, a bydd gan Ffrindiau Chapter fynediad o 14 Medi ymlaen. Gwnewch nodyn yn eich calendr!