Ffilmiau yn Chapter 5 – 11 Mehefin

  • Published:

Cymeriadau dewr sy’n ein diddanu ar y sgrin yr wythnos yma. 

Mae merch ifanc yn trefnu gig chwedlonol Keith Jarrett yn Köln 75, mae’r Ardalydd afradlon Henry Cyril Paget yn ysgwyd y sefydliad Fictoraidd yng Nghymru yn Madfabulous, ac mae tair chwaer yn dychwelyd adre ar gyfer trydedd priodas eu mam yn My Mother’s Wedding.

Mae Gwobr Ffilmiau Byrion Cwiar 2026 yn dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru, gyda’r gwaith o’r rhestr fer yn cael ei ddangos mewn digwyddiad MovieMaker arbennig.

A chofiwch am y Clwb Ffilmiau Gwael, dangosiad o ffilm warthus a fydd yn gwneud i chi edrych mlaen i’r noson ddod i ben. Welwn ni chi yna!