Ffilmiau yn Chapter 9 – 15 Ionawr

  • Published:

Rydyn ni’n dathlu straeon am greadigrwydd, uchelgais a’r dewrder i ddilyn eich breuddwydion.

Mae Becoming Victoria Wood yn cynnig golwg graff ar yr athrylith digri a ail-siapiodd hiwmor Prydain, tra bod Hamnet a Song Sung Blue yn archwilio cariad, colled ac ail gyfle drwy gelf a cherddoriaeth.

Mae The Princess Bride yn cynnig antur a direidi, a Marty Supreme yn dilyn ymgais feiddgar un dyn am fawredd yn Efrog Newydd y 1950au.

Boed chi’n chwilio am ysbrydoliaeth, chwerthin, neu ychydig o hud a lledrith, mae rhywbeth ar y sgrin i chi wythnos yma.