Cwrdd ag Elaine: un o Ffrindiau Chapter sy’n angerddol am gelf a chymuned
Mae Elaine wedi bod yn dod i Chapter yn rheolaidd ers pan oedd ei phlant yn fach. Fe ddechreuodd fel lle i ddiddanu’r teulu, ond mae bellach wedi dod yn lle iddi gwrdd â’i ffrindiau, mwynhau ffilmiau diddorol, ymgolli mewn celf, a chwerthin gydag eraill ar nosweithiau comedi Drones.
Nid yn unig mae Elaine yn ymwelydd rheolaidd, ond mae hi’n Ffrind balch i Chapter, ac mae’n credu ym mhŵer llefydd cymunedol fel hwn: “Mae llefydd lle gall unrhyw un, yn enwedig plant a phobl ifanc, fynd i weld celf yn brin iawn, ac i’w trysori.”
Dyna pam mae hi’n cefnogi Chapter gydag aelodaeth Ffrindiau. Am ddim ond £60 y flwyddyn (neu £5 y mis), mae Elaine yn mwynhau llawer o fanteision fel dim ffi drafodion ar archebion, digwyddiadau arbennig, a gostyngiad o 10% ar fwyd a diod yn y caffi.
Os ydych chi, fel Elaine, yn gwerthfawrogi’r celfyddydau a’r ymdeimlad o gymuned rydyn ni’n ei feithrin, beth am ymuno â hi a dros 200 o Ffrindiau? Nid yn unig byddwch chi’n cefnogi ein canolfan ddiwylliannol fywiog, ond byddwch chi hefyd yn gallu mwynhau’r manteision sy’n dod gyda hynny!
- Published:
Ffrindiau Chapter Friends
Yn yr hinsawdd heriol yma i elusennau, drwy roi £5 y mis, neu rodd blynyddol o £60, byddwch chi’n gyfrifol am gefnogi popeth rydyn ni’n ei wneud yma – o’n ffilmiau am ddim i’r teulu, i weithio gyda, ac ar gyfer, ein cymunedau a’r cannoedd o artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, perfformwyr, coreograffwyr, cerddorion a phobl greadigol rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob blwyddyn, i sicrhau bod ein dinas yn parhau i fod yn ganolbwynt creadigol.