Nid yw ein lifft ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i'w drwsio cyn gynted ag sy'n bosib. Mae'n ddrwg gennyf am yr anhwylustod.

Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau 9 Mai – 15 Mehefin. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar. Gallwch nawr wneud pryniadau yn bersonol, dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich amynedd.

Read more

Ffilmiau Chapter 11 – 17 Hydref

  • Published:

Wythnos yma, byddwn ni’n arddangos doniau a ffilmiau o Gymru gyda chomedi ffeministaidd ddisglair a thywyll ddiweddar Alice Lowe, Timestalker. Dewch draw i glywed mwy am y ffilm yn y sesiwn holi ac ateb gydag Alice ar ôl y dangosiad 5pm ddydd Sadwrn 12 Hydref.

Os nad oedd hynny’n ddigon, dewch i wylio Portraits of a Dangerous Woman, gyda Mark Lewis Jones yn serennu. Mae’r ffilm yn dilyn bywydau tri dieithryn sy’n gwrthdaro mewn damwain car ryfedd.

Bachwch ar y cyfle i weld rhai o ffilmiau gorau 2024 cyn gweddill y byd! Mae Gŵyl Ffilmiau Llundain 2024 yn dychwelyd, a byddwn ni’n cynnal dangosiadau cyntaf ffilmiau bron bob dydd tan 20 Hydref.

Ymunwch â’r llys fel sylwedydd yn y ddrama afaelgar o Ffrainc, The Goldmane Case, lle mae gwleidyddiaeth chwyldroadol a thrais y wladwriaeth ar brawf. Neu ewch i galon Riyadh lle mae anobaith a chyfle yn gwrthdaro yn Mandoob.