Oriau cegin newydd: 9am - 6pm

Amseroedd agor

Ffilmiau Chapter 15 Rhagfyr – 4 Ionawr 2024

  • Published:

Dewch â’r flwyddyn i ben yn gwylio eich hoff ffilmiau Nadoligaidd yn ein sinemâu cysurus a chartrefol!

Rydyn ni wrth ein boddau o gael ail-ddangos stori dwymgalon It’s a Wonderful Life, y rom-com The Apartment, a When Harry Met Sally, heb anghofio The Muppet Christmas Carol!

Dewch i brofi ffilmiau newydd fel y ffilm ddogfen ddadlennol am y gwneuthurwr ffilm Ella Glendining, ffilm bersonol Monica, neu i edrych drwy chwyddwydr ar brofiad glan môr nodweddiadol Prydain yn Seaside Special gan Jens Muerer

I’r sawl ohonoch chi sy’n hoff o Studio Ghibli ac archwilio’r byd animeiddio, mae The Boy and the Heron yn ffilm syfrdanol sy’n dathlu dewrder a harddwch natur. Rydyn ni’n rhannu’r ddwy fersiwn - y fersiwn wedi’i dybio (gyda pherfformiad llais aruchel Robert Pattinson fel y Crëyr) ar gyfer pob dangosiad cyn 5pm, ac yna’r fersiwn wreiddiol Japaneeg gydag isdeitlau Saesneg ar gyfer pob dangosiad ar ôl 5pm, y gorau o ddau fyd!

Mwynhewch ffilmiau am ddim i’r teulu yn ystod cyfnod yr Ŵyl, gan gynnwys dwy ffilm ryfeddol gan Disney – Frozen a 101 Dalmatians; ac allen ni ddim peidio dychwelyd gyda rhai o ffefrynnau 2023, gan gynnwys Barbie, Killers of the Flower Moon, Past Lives, Anatomy of a Fall ac A Year in a Field.

Cadwch lygad am fersiwn 35mm o Pricilla a fydd i’w gweld ddechrau’r flwyddyn, a hefyd bydd teithiau’r bwth taflunio yn dychwelyd gyda’n tîm taflunio hyfryd. I ddod yn fuan ym mis Ionawr.

A close-up of red velvet cinema screen curtains.

Canllaw Ffilm

Pori ein ffilmiau diweddaraf, gan gynnwys gwybodaeth hygyrch dangosiadau i'r teulu am ddim, ac ein ffilmiau Sgrechiwch fel y Mynnwch ar fore ddydd Gwener!

Lawrlwythwch yma

Ffrindiau Chapter Friends

Gyda’ch cyfeillgarwch chi, byddwch chi’n ein helpu ni i rannu celf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel o Gymru a gweddill y byd.

Mwy