Ffilmiau yn Chapter 7 – 13 Tachwedd

  • Published:

Os ydych chi’n hoffi sinema fentrus, ryfedd, a braidd yn wallgo’, dyma’r wythnos i chi.

Bydd y lle’n llanast yn Hundreds of Beavers – Revenge of the Beavers Tour a sesiwn holi ac ateb, gyda noson slapstic llawn nwyddau arbennig a gwesteion blewog.

Mae Bugonia yn dod â Yorgos Lanthimos ac Emma Stone ’nôl at ei gilydd mewn ffilm eco-gyffro dywyll a doniol sy’n finiog, yn steilus, ac yn hyfryd o hynod.

I’r rhai yn eich plith sy’n ymhyfrydu mewn trychinebau sinematig, mae’r Bad Film Club yn dychwelyd i ddathlu celfyddyd ogoneddus ffilmiau ofnadwy.