Galwad agored Experimentica 2026

  • Published:

Mae Experimentica – yr unig ŵyl celf fyw yng Nghymru – yn dathlu ei chwarter can mlwyddiant, ac rydyn ni’n comisiynu hyd at bedwar darn o waith newydd ac uchel­geisiol gan artistiaid sy’n byw ac yn dod o Gymru.

Rydyn ni’n awyddus i weithio gydag artistiaid dros gyfnod o flwyddyn, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, i wireddu darn o waith gorffenedig sydd â’r potensial i deithio ledled Cymru a’r tu hwnt.

Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael:

  • £3000 fel ffi artist
  • Pedair sesiwn dysgu gan gyfoedion wedi’u datblygu mewn trafodaeth â thîm Chapter a’r garfan
  • Tair wythnos o amser ymchwil a datblygu yn Chapter gyda chymorth technegol
  • £1000 o gyllideb cynhyrchu i’w wario ar ddeunyddiau, cefnogaeth dechnegol neu offer y tu allan i adnoddau Chapter
  • Teithio a llety yn ystod yr ŵyl
  • £500 cyllid hygyrchedd
  • Cyngor ac arweiniad i deithio â’r gwaith gyda lleoliad(au) partner

Access

Os byddwch chi’n profi rhwystrau rhag cwblhau’r cais yma, neu os oes gennych gwestiynau ynglŷn â hygyrchedd y cyfweliad neu’r broses gomisiynu, cysylltwch â ni drwy [email protected] neu ffoniwch +44 (0) 29 2031 1069 a byddwn ni’n falch o gael trafod gyda chi.