Arddangosfa unigol newydd gan yr artist Rehana Zaman yn teithio i Chapter yn 2027

  • Published:

Mae Site Gallery yn cyflwyno arddangosfa newydd gan yr artist Rehana Zaman, wedi’i chyd-gomisiynu gyda Chapter, Glasgow International a Project Arts Centre, mewn part­neriaeth ag Oriel Whitechapel. 

Yn cynnwys ffilm newydd mewn dwy ran a gosodwaith cerfluniol, mae’r arddangosfa’n edrych ar gwestiynau am ddefnydd o dir (echdynnu), perchnogaeth tir (eiddo ac atafaelu), a chwalfa amgylcheddol (sychder a llifogydd) drwy ffigur gweithiwr amaethyddol.

Mae’r ffilm yn datblygu mewn dau leoliad daearyddol; Angus ar arfordir dwyreiniol yr Alban, a Punjab, Pacistan. Ar y ddau safle unigryw ond cysylltiedig yma, dilynwn weithwyr sy’n pigo, yn paratoi, yn pacio ac yn cludo cnydau am arian; gweithwyr tymhorol mudol, rhan-gnydwyr, tenantiaid a llafurwyr dydd. Mae coreograffi anwar ffermio diwydiannol un cnwd yn chwarae ochr yn ochr â thameidiau o sgyrsiau gonest a chynulliadau gwrthryfelgar, i archwilio sut mae gwaith tymhorol ac undebaeth llafur – sy’n aml yn fyrhoedlog ac yn ansicr, ac yn cael eu pennu ar sail dosbarth a chast – yn cael eu siapio gan waddol parhaus gwladychiaeth ac ysgogiadau cronnus cyfalafiaeth.

Mae myfyrdod ac ailddehongliad yn dod yn ddyfeisiau ffurfiol drwy gydol y ffilm, gyda darnau ffilm arsylwadol diffiniad uchel yn arwain at rannau ar hen ffilm 16mm cyferbyniad uchel. Mae llithriad amser a lle yn cael eu pwysleisio gyda seinwedd atmosfferig a dilyniannau CGI, wedi’u hysbrydoli gan gosmograffeg Islamaidd ganoloesol sy’n teithio ar draws dwy ran y ffilm. Bydd y gosodwaith aml-sianel yn cael ei osod o fewn amgylchedd cerfluniol sy’n adleisio ffurfiau corfforol a phensaernïaeth amaethyddol. Mae’r strwythurau yma’n coreograffu’r lle, gan drawsnewid yr oriel yn dirwedd ymdrochol o olau a sain tu hwnt i’r sgrin, i fynd i’r afael â sut mae perthnasau â’r tir yn cael eu dymchwel a’u teimlo.

Yn dilyn yr ymddangosiad cyntaf yn Site Gallery (Sheffield) rhwng 20 Chwefror a 24 Mai 2026, bydd y comisiwn yn teithio i Glasgow International 5-21 Mehefin 2026, Oriel Whitechapel (Llundain) 15 Gorffennaf - 13 Medi 2026, Project Arts Centre (Dulyn) 23 Hydref - 24 Rhagfyr 2026, a Chapter (Caerdydd) Ionawr - Ebrill 2027.

Wedi’i chyd-gomisiynu gan Site Gallery, Glasgow International, Project Arts Centre a Chapter mewn partneriaeth ag Oriel Whitechapel. Cynhyrchwyd gan Site Gallery. Cefnogwyd y gwaith ymchwil a datblygu gan Hospitalfield.

Rehana Zaman

Artist sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain yw Rehana Zaman. Mae ei gwaith yn edrych ar y cysyniad o gydberthynas a chymdeithasoldeb, gan chwilio am bosibiliadau o agosrwydd a thramgwydd mewn cyd-destunau gelyniaethus. Mae sgwrs a dulliau cydweithredol wrth wraidd ei ffilmiau, sy’n ymestyn i destunau, perfformiadau a gwaith grŵp. Mae’n sefyll mewn undod â brwydrau Palesteina a Swdan am ryddhad ac yn erbyn hil-laddiad, apartheid a gwladychiaeth.

Mae hi wedi arddangos gwaith yn eang ym Mhrydain ac yn rhyngwladol. Mae ei chyflwyniadau diweddar yn cynnwys Serpentine Civic, Gŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Tromsø Kunstforening, BEK - Canolfan Bergen ar gyfer y Celfyddydau Electronig, British Art Show 9 (teithiol), ICA Miami, Trinity Square Video, Toronto, Gŵyl Ddwyflynyddol Ryngwladol Cerflunwaith Borås, ac Artists’ Film International Whitechapel (teithio’n rhyngwladol). Yn 2019 cyd-olygodd Tongues gyda Taylor Le Melle. Yn 2023 hi oedd enillydd Gwobr Jarman Film London. Mae hi’n aelod o gydweithfa gweithwyr-artistiaid not/nowhere ac mae ei ffilmiau’n cael eu dosbarthu gan LUX.